Toglo gwelededd dewislen symudol

Byw gyda dementia

Gall y Gwasanaethau Cymdeithasol a grŵpiau cefnogi eraill ddarparu gwybodaeth a chymorth ymarferol sy'n gallu helpu rhywun â dementia i wneud hynny gyda dewisiadau ac annibyniaeth.

Mae'n bwysig cydnabod bod y person â dementia'n parhau i fod yn berson ac mae angen ei werthfawrogi a'i gefnogi yn unol â hynny. Mae hyn wrth wraidd yr hyn a elwir yn ofal dementia sy'n canolbwyntio ar y person. 

Gall amryw o gyflyrau niwrolegol sy'n gysylltiedig â dementia arwain at golli'r cof yn raddol, anawsterau ieithyddol, canolbwyntio a dealltwriaeth. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth glir bellach fod pobl â dementia yn gallu parhau i fyw bywydau pwrpasol lle gallant fwynhau gyda'r math cywir o gefnogaeth. 

Weithiau, gall pobl â dementia ddangos ymddygiad anarferol neu annisgwyl, ond yn aml ceir rheswm sylfaenol dros hyn y gellir ei archwilio, ei nodi a chyfeirio ato. Gall hyn helpu pobl â dementia i ymlacio'n fwy a bod yn llai pryderus.

Ceir wybodaeth am symptomau a datblygiad dementia ac am fyw gyda'r cyflwr ar wefan Y Gymdeithas Alzheimer.

Cymorth dementia gan y gwasanaethau cymdeithasol

Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio mewn partneriaeth â'r gwasanaeth iechyd a'r sector gwirfoddol i ddarparu gwybodaeth, gwasanaethau a chefnogaeth i bobl â dementia a'u gofalwyr.

Cymorth a chyngor dementia

Mae nifer o sefydliadau lleol a chenedlaethol yn darparu cefnogaeth i bobl â dementia a'u gofalwyr y gellir eu defnyddio heb gael asesiad.

Gwasanaethau ailalluogi preswyl ar gyfer pobl â dementia

Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi datblygu uned asesu â'r bwriad o helpu mwy o bobl â dementia i barhau i fyw gartref.

Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PMC)

Yn Abertawe, rydym yn ceisio darparu cefnogaeth briodol ac amserol i oedolion a'u gofalwyr gan y person cywir.
Close Dewis iaith