Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Diogelu oedolion

Mae Diogelu Oedolion yn derm sy'n cael ei ddefnyddio i esbonio sut mae asiantaethau (fel yr heddlu, y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gwasanaeth Iechyd) yn ogystal â'r gwaith cyhoeddus cyffredinol yn gweithio gyda'i gilydd i gadw oedolion sy'n wynebu risg yn ddiogel rhag perygl esgeulustod neu gam-drin.

Mae diogelu'n fusnes i bawb. Os ydych yn amau bod cam-drin neu esgeulustod yn digwydd, dylech adrodd am eich pryderon. Ni ddylech anwybyddu'ch pryderon neu dybio y bydd rhywun arall yn adrodd am y cam-drin.

Beth yw cam-drin?

Ystyr cam-drin yw pan fydd rhywun yn gwneud neu'n dweud pethau wrth berson arall er mwyn ei niweidio, ei gynhyrfu neu ei ofni. Gall fod yn un weithred sengl neu sawl gweithred. Mae cam-drin oedolion yn anghywir a gall ddigwydd i unrhyw un 18 oed neu'n hŷn.

Gall unrhyw un gam-drin, ond fel arfer mae'r person sy'n cam-drin mewn sefyllfa o ymddiriedaeth i'r person sy'n cael ei gam-drin - perthynas, ffrind, gweithiwr sy'n ennill cyflog neu wirfoddolwr.

Pryderi am gam-drin posibl?

Beth dylech chi ei wneud os ydych yn meddwl bod oedolyn diamddiffyn mewn perygl o gael ei gam-drin.

Diogelu oedolion

I adrodd am amheuaeth o gamdriniaeth neu bryder o ran diogelwch oedolyn.
Close Dewis iaith