Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Dirprwy Arglwydd Faer

Y Cynghorydd Paxton Hood-Williams.

Deputy Lord Mayor 2023-24, Councillor Paxton Hood-Williams

Cafodd Paxton ei eni a'i fagu yng Nghilâ Uchaf, gyda'i chwaer Pamela, a symudodd i'r Crwys ar ôl iddo briodi. Cafodd ei ethol yn Gynghorydd y Ceidwadwyr dros Fairwood yn 2004, ac mae wedi bod yn Gynghorydd Cymuned y Crwys (ers canol yr 1980au) a Chilâ Uchaf (ers y 2000au cynnar), ac mae'n frwd dros wasanaethu'r gymuned.

Bu'n mynychu Ysgol Ramadeg Tre-gŵyr am bum mlynedd, cyn symud i Ysgol Ramadeg yr Esgob Gore ar gyfer y chweched dosbarth. Yna aeth Paxton i Brifysgol Abertawe lle graddiodd fel metelegydd.

Ym 1966, priododd Paxton â Patricia, sydd â diddordeb mewn garddio a hanes. Mae gan Paxton a Patricia ferch o'r enw Laura, a dwy wyres, Felicite, sy'n astudio bioleg môr ar hyn o bryd, a Gwenllian, sy'n astudio peirianneg awyrofod. Maent yn byw yn Berkshire, lle mae gŵr Laura, Stephen, sy'n beilot gleidiwr byd-enwog, yn rhedeg ei fusnes awyrenegol.

Ar ôl graddio, cyflogwyd Paxton yng ngweithfeydd RTZ yng Nghwm Tawe am bedair blynedd, cyn iddo symud i weithfeydd Corfforaeth Ddur Prydain Port Talbot. Yma bu'n gweithio i ddechrau yn yr adran Ymchwil. Wrth weithio i RTZ, cwblhaodd Paxton Ddiploma mewn Gwasanaethau Rheoli, a oedd, ar y pryd, yn cyfateb i'r cymhwyster MBA. O ganlyniad, am nifer o flynyddoedd bu Paxton yn darlithio'n rhan amser (gyda'r nos) ar gyfer adran reoli Athrofa Addysg Uwch Gorllewin Morgannwg (PCYDDS bellach).

Tra bu'n gweithio i safle gwaith dur Margam, cyflawnodd Paxton sawl rôl cyn iddo ymddeol o'i swydd fel Uwch-reolwr yn y Gwasanaethau Peirianneg yn 2004.

Ers ymddeol, mae Paxton wedi parhau i chwarae rôl flaenllaw yn ei gymuned. Ef yw Cadeirydd Cyngor Cymuned y Crwys, mae'n aelod o Gyngor Cymuned Cilâ Uchaf, yn ogystal â chyflawni ei rôl amlwg fel rhan o'i waith gyda'r cyngor dinas yn cynrychioli ac yn gweithio ar ran ward Fairwood a'i phreswylwyr. Mae Paxton yn un o lywodraethwyr Ysgolion Cynradd y Crwys a Chilâ, ac mae'n hynod falch o'r ddwy ysgol. Yn ogystal, mae'n aelod/yn Gadeirydd ar gyfer nifer o sefydliadau lleol sy'n ymdrin â materion cymunedol wardiau lleol a rheolaeth ehangach AoHNE Gŵyr a materion cysylltiedig.

Ar wahân i fwynhau ein hamgylchedd naturiol lleol gwych ac ardal ehangach de Cymru, mae Paxton yn dilyn y rhan fwyaf o chwaraeon, ac mae wedi bod yn gefnogwr Dinas Abertawe ers y 1950au

Close Dewis iaith