Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Eithriadau ar gyfer eiddo sydd heb eu cynnwys (Treth y Cyngor)

Caiff rhai eiddo eu heithrio o Dreth y Cyngor am gyfnodau penodol.

Gellir eithrio eiddo sy'n cael ei ddefnyddio o Dreth y Cyngor dan yr amgylchiadau canlynol:

  • yw'n cael ei ddefnyddio gan fyfyrwyr yn unig
  • Eiddo lle mae pobl sy'n gadael gofal yn unig yn byw
  • yw'r holl breswylwyr â nam meddyliol difrifol
  • yw'r holl breswylwyr dan 18 oed
  • yw'r eiddo'n rhandy i gartref teulu ac yn cael ei ddefnyddio gan berthnasau hŷn neu anabl y teulu hwnnw (o'r enw fflatiau mam-gu'n aml)
  • yw o leiaf un o'r bobl sy'n atebol am dalu Treth y Cyngor yn ddiplomydd tramor
  • yw'n farics neu'n drigfannau priodasol y lluoedd arfog. Bydd y rhai sy'n ei ddefnyddio'n cyfrannu tuag at gost gwasanaethau lleol trwy drefniant arbennig.
  • yw o leiaf un o'r bobl sy'n atebol am dalu Treth y Cyngor yn aelod o lu sy'n ymweld.

Gellir eithrio eiddo gwag o Dreth y Cyngor dan yr amgylchiadau canlynol:

  • oes angen gwaith atgyweirio sylweddol arno (neu os yw'r fath waith ar droed) neu os yw addasiadau strwythurol yn cael eu gwneud iddo
  • oedd rhywun a oedd yn atebol am Dreth y Cyngor yn ei ddefnyddio, ond mae wedi marw ac nid yw'r brofeb neu'r llythyrau gweinyddiaeth eto wedi'u rhoi ar ôl ei farwolaeth.
  • yw elusen yn berchen arno
  • nad oes dodrefn ynddo
  • gadawyd yn wag gan rywun sydd wedi mynd i'r carchar, canolfan gadw neu ysbyty diogel
  • yw wedi'i adael yn wag gan rywun a symudodd i gael gofal personol mewn ysbyty neu gartref neu rywle arall
  • yw'n wag am fod y gyfraith yn gwahardd byw ynddo
  • yw'n disgwyl i weinidog crefydd ei ddefnyddio
  • yw wedi'i adael yn wag gan rywun sydd wedi symud allan i ddarparu gofal personol i rywun arall
  • yw myfyriwr yn berchen arno ac mai'r myfyriwr hwnnw oedd y diwethaf i'w ddefnyddio
  • yw wedi'i adfeddiannu
  • yw'n gyfrifoldeb ymddiriedolwr methdalwr
  • yw'n safle carafán neu gartref symudol, neu angorau ar gyfer llong
  • yw'n anodd ei osod oherwydd ei fod yn gysylltiedig ag eiddo arall, neu ar dir eiddo arall, ac ni ellir ei osod ar wahân i'r eiddo arall hwnnw heb dorri caniatâd cynllunio. Fodd bynnag, mae'n rhaid bod y sawl sy'n atebol yn byw yn yr eiddo arall er mwyn cymhwyso ar gyfer yr eithriad hwn.

Gwneud cais am eithriad eiddo

Os ydych yn meddwl y dylai'ch eiddo fod wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor, cysylltwch â ni am gyngor ar sut i wneud cais. Efallai y gofynnwn i chi ddarparu tystiolaeth gefnogol, ond dywedwn wrthych am hyn pan siaradwch â ni.

Mae'n rhaid i chi barhau i dalu'ch bil presennol. Os yw'r bil Treth y Cyngor yn cael ei ostwng, caiff bil newydd ei anfon a fydd yn dangos faint y dylech ei dalu. Byddwn wedyn yn gwneud gwiriadau cyfnodol gyda sefydliadau allanol megis asiantaethau credyd. Efallai y gofynnwn i chi ddarparu gwybodaeth neu dystiolaeth sy'n ein helpu i wneud hyn. Gall methu rhoi'r wybodaeth hon olygu y caiff yr eithriad ei ddiddymu.

Cofiwch: os yw'r amgylchiadau sy'n ymwneud â'r eithriad yn newid, mae'n rhaid i chi ddweud wrthym ar unwaith.

Close Dewis iaith