Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

e-Lyfrau

Lawrlwythwch e-lyfrau am ddim i'ch cyfrifiadur, eich tabled a'ch ffôn gyda BorrowBox.

Os ydych yn aelod o Lyfrgelloedd Abertawe, bydd gennych fynediad awtomatig i'n gwasanaeth e-lyfrau: BorrowBox. Ddim yn aelod eto? Gwnewch gais i ymuno nawr.

  • Ni fydd angen i chi boeni am unrhyw ffïoedd hwyr oherwydd bydd y llyfrau'n cael eu tynnu o'ch dyfais yn awtomatig ar ddiwedd y cyfnod benthyca.
  • Gellir lawrlwytho e-lyfrau i'r rhan fwyaf o e-ddarllenwyr.
  • Gallwch fenthyca hyd at 10 e-lyfr ar y tro am gyfnodau o 1 diwrnod hyd at 2 wythnos.

Agor BorrowBox (Yn agor ffenestr newydd)

Fideo cam wrth gam sy'n dangos i chi sut i lawrlwytho a defnyddio ap BorrowBox ar eich dyfais (Yn agor ffenestr newydd)

  1. Er mwyn defnyddio BorrowBox bydd angen i chi nodi eich rhif cerdyn llyfrgell arferol a'ch cyfrinair/PIN. Ar y tro cyntaf, gofynnir i chi ddarparu cyfeiriad e-bost i creu eich cyfrif.
  2. Dewiswch 'eBooks' o'r ddewislen ar y brig er mwyn gweld eu teitlau. Gallwch weld y prif deitlau, llyfrau newydd a'r rhai sydd wedi'u lawrlwytho fwyaf yn ogystal â chwilio yn ôl categori.
  3. Er mwyn chwilio am lyfr gallwch ddefnyddio'r blwch chwilio ar ochr dde uchaf y dudalen.
  4. I fenthyca eitem dewiswch yr opsiwn 'borrow' o dan fanylion pob e-lyfr.
  5. Ar ôl i chi fenthyca llyfr, cliciwch ar y botwm 'download' ar y dudalen 'loan successful' a dewiswch i lawrlwytho e-lyfr, naill ai mewn un tro neu fesul rhan. Os bydd ffenestr dros dro yn ymddangos gydag opsiynau 'Open', 'Run' neu 'Save' ar gyfer eich llyfr pan rydych yn ei lawrlwytho, sicrhewch eich bod yn gwasgu 'Save', neu fel arall ni fydd yr e-lyfr yn cael ei gadw ar eich cyfrifiadur yn y modd cywir.
  6. Ar ôl 14 diwrnod, bydd dau gyfnod adnewyddu o bythefnos ar gael. Ar ôl hyn, neu os ydych chi'n dewis peidio ag adnewyddu, ni fydd yr e-lyfr ar gael i'w agor mwyach a bydd angen i chi ddileu'r ffeil o'ch dyfais.
    Ydych chi wedi gorffen eich llyfr yn gynt na'r disgwyl? Gwasgwch y botwm dychwelyd fel ei fod ar gael i rywun arall ei fwynhau.
  7. Os yw'r llyfr rydych am ei fenthyca'n dweud 'reserve' yn hytrach na 'borrow', mae hyn oherwydd bod defnyddiwr arall y llyfrgell eisoes wedi benthyca'r llyfr. Os ydych dal am fenthyca'r llyfr, gwasgwch 'reserve'. Cyn gynted ag y bydd yr e-lyfr ar gael byddwch yn derbyn e-bost.

Y tro cyntaf y byddwch yn ceisio lawrlwytho e-lyfr byddwch yn cael eich annog i lawrlwytho a gosod Adobe Digital Editions os nad yw'r feddalwedd hon ar eich cyfrifiadur/MAC. Os ydych chi'n defnyddio dyfais symudol Android, Kindle Fire neu iPhone/iPad gallwch lawrlwytho'r ap BorrowBox.

Mae help ar gael ar wefan BorrowBox (Yn agor ffenestr newydd). Bydd angen i chi fewngofnodi i'r wefan i gael mynediad iddi.

Close Dewis iaith