Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gordaliadau Budd-dal Tai

Gall gordaliadau ddigwydd os na roddwyd gwybod i ni am newid yn eich amgylchiadau ar y pryd y digwyddodd.

Os ydych chi wedi derbyn gordaliad, byddwn yn anfon llythyr atoch yn rhoi gwybod i chi, a fydd yn cynnwys y canlynol:

  • y rheswm pam y digwyddodd
  • y cyfnod y mae'n ei gwmpasu
  • y swm i'w ad-dalu
  • cyfeirnod (mewn blwch o'r enw 'rhif hawlio budd-dal')

Efallai bydd gofyn i chi ddarparu rhagor o wybodaeth os yw'ch amgylchiadau wedi newid ond nid yw'ch manylion cyfredol gennym (fel eich incwm newydd).

Os ydych yn y manylion yr ydym wedi gofyn amdanynt, efallai y bydd modd i ni leihau'r gordaliad.

Ad-dalu'r gordaliad

Does dim angen i chi ad-dalu'r swm mewn un taliad os nad ydych chi'n gallu fforddio gwneud hynny. Penderfynwch faint rydych yn meddwl y gallwch ei dalu i ni bob wythnos a rhowch wybod i ni trwy ffonio 01792 635877.

Os yw'ch cynnig yn rhesymol, efallai y bydd modd i ni gytuno ar yr ad-daliadau ar unwaith. Os na, efallai byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen gyllideb: Gordaliadau Budd-dal Tai - ffurflen gyllideb bersonol (Word doc) [32KB].

Mewn rhai achosion gallwn adennill y gordaliad trwy ddidynnu swm wythnosol o unrhyw Fudd-dal Tai y mae gennych hawl i'w dderbyn. Os yw hyn yn bosib, byddwn yn anfon llythyr atoch i esbonio'r swm sy'n cael ei adennill bob wythnos. Mae'n rhaid i chi dalu'r swm a ddidynnir i'ch landlord yn ogystal ag unrhyw rent yr ydych eisoes yn ei dalu er mwyn sicrhau nad ydych yn cronni ôl-ddyledion.

Os na allwn adennill y ddyled trwy'r dull hwnnw dros gyfnod rhesymol, byddwn yn anfon bil atoch gan ofyn am ad-daliad.

Ffyrdd o dalu

Mae nifer o ffyrdd y gallwch wneud ad-daliad:

  • Talu ar-lein
    • Dewiswch a ydych am wneud ad-daliad o ordaliad Budd-dal Tai i denant preifat neu ordaliad Budd-dal Tai i denant y cyngor.
  • Trwy system dalu awtomataidd dros y ffôn
    • Sicrhewch fod gennych rif eich anfoneb a'ch manylion debyd neu gredyd wrth law a ffoniwch 0300 4562765 (cyfradd leol) a dilynwch y cyfarwyddiadau a roddir.
  • Dros y ffôn gan ddefnyddio'ch cerdyn debyd neu gredyd
    • Ffoniwch ni ar 01792 635877 gyda manylion y taliad.
  • Trwy gerdyn debyd neu gredyd yn eich swyddfa dai ardal leol
  • Trwy siec neu archeb bost yn y Ganolfan Ddinesig
  • Drwy'r post
    • Anfonwch siec sy'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' at: Pennaeth Cyllid a Chyflwyno, Canolfan Ddinesig, Oystermouth Road, Abertawe SA1 3SN.
  • Trwy archeb sefydlog:  Gordaliadau Budd-dal Tai - Mandad Archeb Reolaidd (Word doc) [47KB]
  • Trwy ddidyniadau o'ch cyflog
    • Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Abertawe ffoniwch ni ar 01792 635877 i wneud y trefniadau angenrheidiol
    • Ar gyfer gweithwyr/cyflogwyr sefydliadau eraill - gweler Atodiad Enillion Uniongyrchol (DEA)

Rhagor o wybodaeth

Os oes angen rhagor o gymorth neu wybodaeth arnoch, gallwch gysylltu â ni drwy'r dulliau isod:

Atodiad Enillion Uniongyrchol (DEA)

Wrth ddefnyddio'r dull hwn, mae'n ofynnol i gyflogwyr wneud didyniadau o gyflog eu gweithwyr ac yna caiff y symiau a ddidynnir eu talu i ni er mwyn lleihau neu glirio'r ddyled.
Close Dewis iaith