Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gwaith Brics Dyfnant

Mae safle'r hen waith brics bellach yn goetir llydanddail gyda phwll, dôl, rhostir, brigiadau creigiog ac adfeilion adeiladau'r hen waith brics.

Mae cylchdaith fer o gwmpas y pwll sy'n hwylus i bawb a chylchdaith hwy, sef tua 0.6 milltir (1km) sy'n mynd heibio'r ddôl, y cwm a foddwyd ac yna i fyny drwy'r coetir i Deras Highland. Mae'r daith hwy'n serth mewn mannau a gallai fod yn fwdlyd ar adegau.

Hwyrach bydd modd i chi weld olion rhai o adeiladau ac odynnau'r gwaith brics yn ogystal â byncer o'r Ail Ryfel Byd ymhlith yr isdyfiant. Y tu ôl i'r pwll mae hen dwnnel 75m o hyd sydd bellach wedi'i rwystro am resymau diogelwch ac er mwyn diogelu'r ystlumod trwyn pedol lleiaf sy'n clwydo yno. Mae'r ystlumod, y twnnel ac ychydig o adeiladau eraill yn yr ardal maent yn eu defnyddio'n cael eu diogelu gan y gyfraith. Mae'r ystlumod yn bwydo liw nos ar wyfynod a phryfed eraill sy'n hedfan.

Uchafbwyntiau

Mae dyfrgwn wedi cael eu gweld yn y pwll a'r cwm a foddwyd ond, oni bai eich bod yn amyneddgar iawn, nid ydych yn debygol o weld y creadur swil hwn.

Dynodiadau

  • Safle o Bwys Cadwraeth Natur (SBCN 203)

Cyfleusterau

  • Maes Parcio (am ddim) ger y safle
  • Swyddfa Bost a siop fach gyferbyn â'r safle

Gwybodaeth am fynediad

Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr

Llwybrau cerdded

O'r maes parcio yn Nynfant, dilynwch y llwybr beicio i'r gogledd i gyfeiriad Tregŵyr ar linell hen reilffordd Canolbarth Cymru am chwarter milltir. Gellir cael mynediad i'r coed ar draws pompren fach i'r dde o'r llwybr beicio.

Ceir

Mae maes parcio cyhoeddus am ddim yn Walter's Row yn Nynfant (B4296).

Beicio

Mae llwybr beicio 4 (o'r rhwydwaith beicio cenedlaethol) yn rhedeg o'r gogledd i'r de ar hyd hen reilffordd ger y coetir.

Bysus

Gwasanaeth First Cymru 21A neu 21B neu Gower Explorer 116 (a 119 gyda'r hwyr ar ddiwrnodau'r wythnos). Dewch oddi ar y bws yn Sgwâr Dyfnant.

Close Dewis iaith