Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Casgliad gwastraff gardd

Defnyddiwch y bagiau gwyn ailddefnyddiadwy ar gyfer eich gwastraff gardd. Byddwn yn ei gasglu ar eich wythnos werdd.

Garden waste recycling bag.
Gellir prynu bagiau gwastraff gardd o am £2.50 yr un o llyfrgelloedd a swyddfeydd dai. Sylwch fod rhai lleoliadau yn derbyn taliad arian parod yn unig.

Er mwyn sicrhau y cesglir eich bagiau ar gyfer ailgylchu:

  • yr unig fagiau y dylech eu defnyddio yw'r rhai rydym yn eu darparu.
  • rhowch eich bagiau allan i'w casglu ar ol 7.00pm y noson cyn eich diwrnod casglu a chyn 6.00am ar fore'ch diwrnod casglu
  • peidiwch a rhoi mwy na 10 bag gardd allan ar gyfer pob casgliad
  • sicrhewch nad yw'ch bag yn rhy drwm (dan 15kg)
  • ceisiwch atal eich bagiau rhag mynd ar grwydr trwy ysgrifennu rhif eich tŷ arnynt
  • defnyddiwch ein teclyn chwilio am gasgliadau ailgylchu a sbwriel i gael gwybod ar ba ddiwrnod rydym yn casglu'ch bagiau

Beth i'w roi yn y bagiau

Diolch yn fawr

Gallwch roi'r eitemau canlynol yn eich bag gwastraff gardd:

  • toriadau lawnt
  • toriadau llwyni
  • dail a phlanhigion
  • ffyn a brigau
  • blodau a chwyn
  • gwelyau anifeiliaid sglodion pren a gwair (anifeiliaid sy'n bwyta planhigion yn unig)
  • coed Nadolig go iawn (wedi'u torri i fyny)

Dim diolch

Peidiwch â rhoi'r eitemau canlynol yn eich bag gwastraff gardd:

  • gwastraff ci a chath
  • gwastraff bwyd
  • planhigion ymledol, e.e. canclwm Siapan
  • canghennau mawr neu foncyffion
  • bagiau plastig
  • pridd neu compost
  • cerrig neu rwbel
  • pren ee ffensys, siediau a pystiau

Close Dewis iaith