Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwastraff swmpus

Rydym yn cynnig gwasanaeth casglu ymyl y ffordd ar gyfer eitemau cartref fel gwelyau, carpedi, oergelloedd, rhewgelloedd a chypyrddau dillad.

Beth fydd y gost?

  • 1 i 3 eitem - £23
  • 4 i 6 eitem (uchafswm) - £46

Mae'n rhaid archebu a thalu am bob casgliad ymlaen llaw.

Os ydych yn derbyn cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith sy'n gysylltiedig ag incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm neu gredyd pensiwn gwarantedig a Chredyd Cynhwysol, mae gennych hawl i uchafswm o 3 chasgliad o hyd at 3 eitem am hanner pris dros gyfnod o 12 mis.

Archebu casgliad a thalu amdano

Cyn i chi archebu casgliad, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'r rhestr o eitemau na allwn eu casglu isod.

Trefnu casgliad gwastraff swmpus ar-lein Trefnu casgliad gwastraff swmpus ar-lein

Neu:

Bydd y casgliad fel arfer ar yr un diwrnod â'ch casgliadau ailgylchu fel arfer.

Unwaith rydych wedi archebu, anfonir e-bost atoch o fewn 3 diwrnod gwaith i gadarnhau'r dyddiad casglu. Gwiriwch eich ffolder e-byst sbam/sothach rhag ofn nad yw'n ymddangos yn eich ffolder e-byst. Os nad ydych wedi derbyn eich e-bost cadarnhad ar ôl 3 diwrnod gwaith, ffoniwch y tîm ar 01792 635600.

Polisi canslo

Mae angen arnom o leiaf 24 awr o rybudd i ganslo casgliad; ar ôl yr amser hwnnw, bydd y criw casglu'n ymrwymedig i'r casgliad a bydd treuliau'n deillio o'r herwydd. Sylwer os mai dydd Llun yw eich diwrnod casglu, bydd angen i ni wybod erbyn 12.00pm ar y dydd Gwener cynt.

Paratoi ar gyfer eich casgliad

  1. Rhowch yr eitemau allan i'w casglu ar ymyl y ffordd rhwng 7.00pm y noson cyn eich casgliad a 7.00am ar fore diwrnod eich casgliad - ni fydd y tîm casglu'n gallu dod i mewn i'ch eiddo.
  2. Dim ond yr eitemau a ddisgrifiwyd gennych wrth archebu'ch casgliad y dylid eu rhoi allan.
  3. Cadwch eitemau'n sych a pheidiwch â'u gadael allan am amser hir ym mhob tywydd. Os ydych yn gadael eitem allan a allai amsugno dŵr (e.e. matres neu soffa), gorchuddiwch nhw. Gall eitemau gwlyb fod yn rhy drwm i'w codi ac efallai na fyddant yn cael eu casglu.

NI FYDDWN yn casglu:

  • eitemau sy'n rhy drwm i'w codi yn ddiogel gan y criw casglu
  • eitemau o tu mewn i'r eiddo neu'r ardd
  • o eiddo masnachol (busnesau)
  • gwastraff peryglus, e.e. asbestos, batris ceir, paent, etc
  • eitemau sy'n cynnwys gwydr neu ddrychau
  • drysau allanol
  • darnau gosod fel switiau ystafelloedd ymolchi
  • boeleri, poteli nwy neu danciau olew
  • rwbel adeiladu
  • teiars ceir/ olwynion
  • rhannau/ darnau mewnol ceir (fel seddi, ayyb)
  • rhannau/darnau ceir (fel bwmperi, ayyb)
  • sied garddio
  • rheiddiaduron
  • paledi pren
  • pianos
  • deunydd PVC
  • mwy na 2 oergell a rhewgell fesul archeb

Beth sy'n digwydd i'r eitemau sy'n cael eu casglu?

Mae'r holl eitemau sy'n cael eu casglu'n cael eu didoli i'w hailddefnyddio neu eu hailgylchu.

Ffyrdd eraill o ailgylchu eich gwastraff swmpus

Gallwch roi eitemau swmpus ailddenfyddiadwy yn syth i'n siop ailddefnyddio neu i elusen leol neu sefydliad ailddefnyddio. Neu gallech werthu eich eitem, neu ei roi fel rhodd, drwy farchnadle ar-lein.

Gellir cael gwared ar rai eitemau am ddim yn ein canolfannau ailgylchu gwastraff cartref.

Busnesau a landlordiaid

Gwasanaeth i breswylwyr yn unig yw hwn - ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer gwastraff busnes (gan gynnwys nwyddau trydanol neu gelfi a berchnogir gan landlord eiddo sy'n cael ei rentu). Er mwyn atal pobl rhag camddefnyddio'r gwasanaeth hwn, byddwn yn casglu uchafswm o 2 oergell neu fatres o unrhyw eiddo.

Gwastraff masnachol ac ailgylchu Gwastraff masnachol ac ailgylchu

Trefnu casgliad gwastraff swmpus ar-lein

Gallwch drefnu casgliad gwastraff swmpus gan ddefnyddio'r ffurflen hon.
Close Dewis iaith