||
||
Newid maint y testun
| Gwrando ar y wefan yma Listen to this website | Testun yn Unig | Arferol| Cyferbynnu
Logo to act as a header and advert for Dinas a Sir Abertawe|
Website URL : http://www.swansea.gov.uk/index.cfm?articleid=10371
||

Gwasanaeth Cyfieithu Gwefannau

image depicting Website Translation Service

Mae'r wefan yma wedi ei ddarparu yn y Saesneg a'r Gymraeg gan Ddinas a Sir Abertawe. Gall y wefan gael ei gweld hefyd mewn 6 iaith arall trwy ddefnyddio'r cyfleusterau am ddim sydd yn cael eu darparu gan Google.

Mae yna rai cyfyngiadau ar faint y ffeil y gellir ei gyflwyno ac mae'r cyfieithiad fel arfer yn ddealladwy ond nid yn berffaith.  Ni all Dinas a Sir Abertawe warantu cywirdeb y cyfieithiadau mae Google yn darparu.

Dewiswch yr iaith rydych ei heisiau isod - trwy glicio ar y faner neu'r iaith, a bydd y wefan yn cael ei chyfieithu i'r iaith honno wedi oedi byr tra bod y cyfieithu'n cymryd lle.

Cymorth Cyfieithu
Os ydych yn ceisio gweld tudalen ar y we sydd wedi ei ysgrifennu mewn iaith wahanol a bod y cymeriadau cywir ddim i'w gweld (yn aml wedi eu dynodi gan flychau sgwâr yn lle'r llythrennau cywir) yna mae angen i chi diweddaru eich porwr gwe gyda'r ffeiliau cefnogi iaith addas.
Os ydych yn defnyddio Internet Explorer mae angen i chi fynd i View > Encoding > More ac yna dewis yr iaith y mae ei hangen arnoch. Os nad oes cefnogaeth ar gyfer y iaith honno wedi ei gosod yn barod ar eich cyfrifiadur yna bydd blwch yn ymddangos ac yn gofyn i chi lawrlwytho'r ffeiliau perthnasol o wefan Microsoft. Dylech wneud hyn a byddant fel arfer yn gosod eu hunain ar eich cyfrifiadur, er weithiau efallai bydd rhaid i chi roi CD eich system weithredu yn eich gyriant CD hefyd. Efallai bydd rhaid i chi ail-ddechrau eich cyfrifiadur.
Os yw popeth yn iawn gyda'r dudalen dylai nawr arddangos y set cywir o lythrennau.

Gwasanaethau Cyfieithu Eraill
Yn anffodus nid oed gan y Cyngor adnoddau i gyfieithu'r gwefannau â llaw o Saedneg i ieithoedd eraill nad ydynt wedi eu rhestru isod. Fodd bynnag, bydd cysylltiadau cyfieithu peiriant yn cael eu darparu cyn gynted ag y bydd y gwasanaeth ar gyfer y ieithoedd yma ar gael.
Os hoffech siarad â rhywun o'r Cyngor yn defnyddio ffôn, yna byddwch yn gallu gwneud defnydd o'r gwasanaeth Dehongli dros y Ffôn sydd yn cael ei gynnig gan y Cyngor.

© 2010 Dinas a Sir Abertawe
Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. SA1 3SN. Ffôn: 01792 636000 Ffacs: 01792 636340