|
|
||
TaiCroeso i adran Uned Gwasanaethau Tai'r wefan hon.Mae Dinas a Sir Abertawe'n rheoli tua 13,609 adeilad drwy ei Huned Gwasanaethau Tai ac mae'n un o ddarparwyr tai mwyaf Cymru. Mae gennym gymysgedd o adeiladau - tai, fflatiau, byngalos a chynlluniau tai lloches ar gyfer yr henoed, yn bennaf wedi'u clystyru ar stadau ar draws ardal Abertawe. Rydym yn darparu'r rhan fwyaf o'n gwasanaethau drwy ein naw Swyddfa Dai Rhanbarthol. Darperir cyngor a gwybodaeth, gan gynnwys atal digartrefedd a gwasanaethau asesu, gan ein gwasanaeth Opsiynau Tai. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth atgyweirio a grantiau cyfleusterau ac addasiadau i'r anabl, yn cyflwyno gwelliannau mewn ardaloedd adfywio ac yn cydlynu gwelliannau effeithlonrwydd ynni ar draws Abertawe ym mhob math o ddeiliadaeth tai. Prif gyfrifoldebau'r Uned Gwasanaethau Tai yw - - Rheoli Tai Cyngor Am wybodaeth bellach am yr hyn y mae'r Uned Cymorth Tai yn ei gynnig, dilynwch y dolenni isod neu ar y chwith. Gweler 'Eich Opsiynau Tai' os bydd angen help, cyngor neu wybodaeth arnoch am eich cartref - os ydych yn cael trafferthion, os oes angen symud arnoch, os ydych ar fin cael eich troi allan o'ch cartref neu os ydych yn ddigartref ar hyn o bryd. Os ydych yn rhentu gan landlord preifat, mae gwybodaeth a chyngor ar gael yn adran y Tai a Rentir yn Breifat. Gallwch gael gwybodaeth am Fudd-dal Tai/Gostyngiad Treth y Cyngor yma: Budd-dal Tai a Gostyngiad Treth y Cyngor.
Mwy o wybodaeth
|
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Mai 8 2013