|
|
||
Genedigaethau, Marwolaethau, Phriodasau a Partneriaeth Sifil![]() Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau yn Ardal AbertaweCroeso i dudalennau Gwasanaeth Cofrestru Abertawe. Ein nod yw darparu gwasanaeth cyfeillgar a chroesawgar.
Rydym wedi ein lleoli yn adain orllewinol y Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth. Mae lle i barcio ceir a gellir cyrraedd ein Hystafell Ddathlu mewn cadair olwyn. Noder: does dim mynediad i'r Swyddfa Gofrestru trwy dderbynfa ganolog y Canolfan Ddinesig. Mae'n rhaid defnyddio'r ffordd mynediad i'r, Gorllewin bel mae parcio pwrpasol ar gael. Ein horiau agor yw 8.30 - 4.30 dydd Llun i ddydd Iau a 8.30 - 4.00 dydd Gwener trwy apwyntiad yn unig. Cysylltwch â ni ar (01792) 636188 ni i drefnu apwyntiad. Dilynwch y dolenni isod i gael manylion am y seremonïau rydym yn eu cynnig.
Mae'n rhaid cofrestru genedigaeth eich baban o fewn 42 diwrnod o'r dyddiad geni. Bydd yr enedigaeth yn cael ei chofrestru yn y dosbarth lle y digwyddodd yr enedigaeth.
Mae'n bleser gan Ddinas a Sir Abertawe gynnig amrywiaeth o seremonïau newydd a fydd yn cael eu creu'n unigol i weddu i anghenion yr achlysur.
Croeso i Seremonïau Dinasyddiaeth Dinas a Sir Abertawe.
Darperir Cofrestru Partneriaethau Sifil ar gyfer cyplau sy'n oedolion o'r un rhyw sydd am ymgymryd â chytundeb cyfreithiol rwymol.
Sut mae cael copiau o dystysgrifau Abertawe
Mae'n rhaid cofrestru marwolaeth o fewn 5 niwrnod o ddyddiad y farwolaeth, yn y dosbarth lle y digwyddodd.
Mae'n bleser gennym ddarparu gwybodaeth i chi ynglyn â phriodi yn Abertawe ac rydyn ni'n gobeithio y bydd hynny o gymorth i chi wrth i chi gynllunio eich diwrnod arbennig.
Byddem yn fwy na pharod i'ch helpu gyda threfniadau eich seremoni. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'r Swyddfa Gofrestru.
|
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Gorffennaf 13 2010