|
|
||
Uned Adfywio CymunedauMae'r Uned Adfywio Cymunedau'n gweithio mewn partneriaeth â phobl leol, gwasanaethau'r awdurdod lleol ac asiantaethau eraill i hwyluso adfywio cymunedau blaenoriaeth yn Abertawe, gan wella a datblygu cyfleoedd i bawb o fewn cymuned ddiogel a chynhwysol.Rydym yn gwneud hyn trwy arwain a chefnogi grwpiau a phartneriaethau cymunedol i nodi materion yn rhagweithiol ac i fynd i'r afael â hwy yn eu cymuned.Pwy ydym ni Mae Uned Adfywio Cymunedau Dinas a Sir Abertawe yn dîm bach o staff mewn lleoliad canolog sy'n darparu cefnogaeth, cyfeiriad strategol a chydlyniad i waith Adfywio Cymunedau yn Abertawe. Beth rydym yn ei wneud Mae Adfywio Cymunedau'n ymwneud â mynd i'r afael â thlodi, amddifadedd a chynhwysiad cymdeithasol mewn ardaloedd daearyddol penodol, neu mewn grwpiau demograffig penodol o bobl (cymunedau diddordeb). Mae gwaith yr Uned Adfywio Cymunedau'n cysylltu'r gwaith cymunedol gwirioneddol â strategaethau lleol a chenedlaethol a rhaglenni a chyllid cyfredol y llywodraeth. Rydym yn cefnogi:
Mae'r Uned Adfywio Cymunedau hefyd yn rheoli Rhaglen Cymunedau'n Gyntaf Llywodraeth Cymru, arian Cydlyniad Cymunedol ac yn gyswllt Dinas a Sir Abertawe ar gyfer rhaglen Cymunedau sy'n Cydweithio Rhanbarthol De-orllewin Cymruhttp://www.swansea.gov.uk/collaborativecommunities Mae map o Bartneriaethau Cymunedol blaenoriaeth allweddol yn Abertawe ar gael ar ochr dde'r dudalen hon. Y rhai a reolir gan yr Uned Adfywio Cymunedau yw: Bonymaen, Y Clâs/Caemawr, Treforys, Penlan, Port Tennant a Pharc Sgeti. Ein cydweithwyr Rydym yn gweithio gydag adrannau eraill Dinas a Sir Abertawe, ac yn annog gwaith partneriaeth pellach gyda nhw, i gynyddu cyfranogiad a grymuso cymunedau fel bod gwasanaethau'r cyngor yn gynhwysol ac yn diwallu anghenion cymunedau amrywiol yn Abertawe. Rydym yn gweithio'n barhaus gyda Phartneriaethau Cymunedol lleol ac Ymddiriedolaethau Datblygu, ac yn eu cefnogi, ac mae hyn yn creu cyswllt uniongyrchol rhyngom ni a phobl a chymunedau Abertawe. Mae'r sefydliadau allanol rydym yn cysylltu â hwy'n rheolaidd yn helaeth ac fel arfer yn cynnwys y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Pam rydym yn ei wneud Mae gwaith yr Uned Adfywio Cymunedau'n cyfrannu'n sylweddol at saith amcan strategol yr awdurdod lleol. Mae adfywio cymunedau'n un o bedair thema drawsbynciol y mae angen i bob partneriaeth strategol eu hystyried yn eu gwaith. Mae'r Uned Adfywio Cymunedau'n gweithio mewn partneriaeth â chymunedau blaenoriaeth a sefydliadau eraill y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn Abertawe i:
Mae Adfywio Cymunedau yn broses o fynd i'r afael â thlodi ac eithrio cymdeithasol mewn ardaloedd a chymunedau difreintiedig.
Cymunedau sy'n Cydweithio - yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i sefydliadau a mentrau cymdeithasol y trydydd sector. A hoffech gynyddu'ch dylanwad cymdeithasol neu greu mwy o swyddi?
Sefydlwyd Ymddiriedolaethau a Phartneriaethau Datblygu mewn rhai ardaloedd yn Abertawe er mwyn sbarduno'r broses adfywio cymunedol.
The Communities First Programme in Swansea is managed by Community Regeneration.
Rheolir y Rhaglen Cydlyniant Cymunedol yn Abertawe gan yr Uned Adfywio Cymunedau.
Gallwch gysylltu â'r Uned Adfywio Cymunedau mewn sawl ffordd:
Yn eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar eich arian.
Diben Cylchlythyr Chwarterol yr Uned Adfywio Cymunedau yw rhoi'r diweddaraf i chi am yr hyn sy'n digwydd ym maes Adfywio Cymunedol yn Abertawe.
|
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Tachwedd 8 2012