|
|
||
Tipio AnghyfreithlonGadael gwastraff ar unrhyw dir yn anghyfreithlon yw tipio heb ganiatâd.Mae gwastraff yn cynnwys gwastraff diangen o gartref neu fusnes; gwastraff cartref cyffredinol, eitemau mawr fel oergelloedd a matresi, gwastraff gardd, gwastraff adeiladu, gwastraff clinigol, teiars a hylif.Rheolir gollwng gwastraff gan y gyfraith. Dim ond ar safleoedd â thrwydded swyddogol y gellir cael gwared arno. Beth yw'r cosbau? Mae tipio'n anghyfreithlon yn drosedd, ac os cewch eich dal, gellir eich erlyn dan Ddeddf Iechyd Amgylcheddol 1990. Os cewch eich euogfarnu mewn Llys Ynadon, gallech dderbyn dirwy gwerth hyd at £20,000 a/neu eich carcahru am chwe mis. Os ceir rhywun yn euog yn Llys y Goron, mae'r ddirwy'n ddiderfyn a gall y ddedfryd o garchar fod rhwng dwy a phum mlynedd. Mae hefyd yn drosedd i ganiatáu tipio'n anghyfreithlon ar eich tir. Os defnyddir cerbyd i dipio'n anghyfreithlon, gallai'r gyrrwr a'r person sy'n gyfrifol am y cerbyd gael eu herlyn hefyd. Gall yr heddlu gipio'r cerbydau hyn. Ar dir preifat, cyfrifoldeb y tirfeddiannwr yw clirio'r ardal, ac os yw'n berthnasol, i brofi bod y troseddwr yn euog. Os bydd tipio'n anghyfreithlon yn niwsans neu'n berygl i iechyd cyhoeddus, gall y cyngor orfodi'r tirfeddiannwr i glirio'r safle. Perygl neu lygredd Ffoniwch linell ffôn Asiantaeth yr Amgylchedd ar 0800 807060
Wrth roi gwybod am dipio'n anghyfreithlon, mae arnom angen gwybod, · Y dyddiad/amser · Lleoliad · Beth sydd wedi cael ei adael · Beth oedd gwneuthuriad/ model a rhif cofrestru unrhyw gerbyd a ddefnyddiwyd (os yw'n briodol) · Disgrifiad o'r bobl a oedd yn gyfrifol · Eich enw, ac enwau unrhyw un oedd gyda chi · Lle roeddech chi pan welsoch y digwyddiad Bydd rhaid i chi wneud datganiad i Swyddog Gorfodi, a fydd yn cynnig cefnogaeth a chymorth i chi drwy gydol yr ymchwiliad. Pan fyddwch yn gwneud eich datganiad, mae'n bwysig eich bod ond yn rhoi gwybod am yr hyn a welsoch ac a glywsoch chi, ac nid yr hyn a welodd rhywun arall.
Mae casgliadau gwastraff wythnosol a chasgliadau ailgylchu bob pythefnos i bob cartref yn Abertawe. Mae cyfleusterau ailgylchu ar gael mewn nifer o leoliadau, gan gynnwys pob un o'r pum Safle Ailgylchu Cymunedol. Am fwy o wybodaeth, gweler ein tudalennau ailgylchu Mae'r cyngor yn gweithredu gwasanaeth casglu gwastraff swmpus ar gyfer gwastraff cartref mawr. Gellir cymryd holl wastraff cartref arall i'ch Safle Ailgylchu Cymunedol agosaf. Cynhelir cynllun Casglu Gwastraff Gardd yn yr holl sir, bron. Gellir casglu gwastraff gardd tai nad ydynt yn rhan o'r cynllun casglu mewn bagiau gwastraff gardd arbennig. Gallwch hefyd ei gymryd i'ch Safle Ailgylchu Cymunedol agosaf, lle caiff ei gompostio at ddefnydd y cyhoedd. Gweler Compost Am Ddim. Rhaid cael gwared ar wastraff masnachol yn briodol, ac ni ddylid ei gymryd i Safle Ailgylchu Cymunedol.
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Mehefin 2 2010