|
|
||
Strategaeth Anabledd Plant a Phobl Ifanc![]() Mae drafft o Strategaeth Anabledd Plant a Phobl Ifanc ar gael nawr ar gyfer ymgynghoriad. Mae'r Strategaeth yn amlinellu blaenoriaethau Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc (PPPI) Dinas a Sir Abertawe ar gyfer diwallu anghenion plant a phobl ifanc ag anableddau.Mae'r Strategaeth ymhlith y camau gweithredu allweddol a nodwyd yng Nghynllun Plant a Phobl Ifanc 2008 i 2011 i ddiwallu anghenion grwpiau penodol o blant a phobl ifanc diamddiffyn. Felly mae'n cyfrannu at Strategaeth Gymunedol drosgynnol yr awdurdod. Mae hefyd yn cysylltu â gweledigaeth Cynllun Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yr awdurdod o gymdeithas sy'n seiliedig ar Degwch, Parch, Rhyddid, Dewis ac Urddas. Bydd Strategaeth Anabledd PPPI yn sylfaen ar gyfer datblygu Cynllun Gweithredu Anabledd 2009 - 2011 a fydd hefyd yn destun ymgynghoriad. Mae holiadur ar-lein ar gael nawr drwy ddilyn y ddolen isod i bobl wneud sylwadau. Holiadur ar-leinGellir lawrlwytho'r Strategaeth Anabledd yn y Gymraeg neu'r Saesneg drwy ddilyn y dolenni ar y dudalen hon. Os oes angen copi o'r Strategaeth neu'r holiadur mewn fformat arall arnoch, er enghraifft Braille neu sain, e-bostiwch access2learning@swansea.gov.uk neu ffoniwch 01792 636162. |
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Chwefror 8 2010