|
|
||
Dadorchuddio arddangosfa ar gyfer cynlluniau'r orsaf drenauMae cynlluniau i ailwampio gorsaf drenau Abertawe yn orsaf ddisglair, hygyrch, glân a diogel addas i'r unfed ganrif ar hugain bellach wedi'u dadorchuddio.![]() Mae arddangosfa yng ngorsaf y ddinas ar y Stryd Fawr tan ddydd Gwener yr wythnos hon (12 Chwefror) sy'n cynnwys lluniau o sut bydd yr orsaf yn edrych ar ôl cwblhau'r gwaith diweddaru, yn ogystal â gwybodaeth am ba nodweddion newydd a gyflwynir. Bydd dros 1.6 miliwn o deithwyr sy'n teithio drwy orsaf Abertawe bob blwyddyn yn elwa ar brofiad teithio llawer gwell ar reilffyrdd oherwydd y gwaith ailwampio. Cyflwynir ardal gynnull lawer gwell gyda mwy o gyfleusterau cwbl hygyrch i deithwyr dan y cynllun, yn ogystal â chysgodfeydd aros, toiledau, byrddau gwybodaeth digidol, siopau a chamerâu CCTV newydd. Bydd yr orsaf hefyd yn edrych yn well oherwydd cyfuniad o ganopïau wedi'u hailwampio a gosodiadau cyfoes newydd a fydd yn cyd-fynd â'r bensaernïaeth bresennol. Bydd mynedfa ochr o'r rheng dacsis, rhestlau beiciau ychwanegol, toiledau wedi'u hadnewyddu a desg gwybodaeth i gwsmeriaid ganolog hefyd ymysg y nodweddion newydd. Mae wal wydrog yn cael ei gosod rhwng ardal gynnull ac ardal blatfform yr orsaf i ganiatáu mwy o olau i gyrraedd yr adeilad. Mae gorsaf drenau Abertawe yn un o byrth allweddol y ddinas, a chynhelir y cynllun diweddaru ochr yn ochr â gwaith parhaus i ailwampio gorsaf fysus Cwadrant y ddinas. Mae contractau i gyflawni gwaith ailwampio'r orsaf drenau yn cael eu tendro ar hyn o bryd, a disgwylir i waith ddechrau ar y safle tua diwedd y gwanwyn. Mae'r cynllun yn rhan o Raglen Wella Gorsafoedd Cenedlaethol yr Adran Gludiant, ac fe'i arweinir ar y cyd gan Drenau Arriva Cymru, Network Rail a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae ganddo gefnogaeth gadarn gan Gyngor Abertawe hefyd, sy'n ystyried y gwelliannau arfaethedig i'r orsaf yn hwb pellach i gynlluniau adfywio'r ddinas. Meddai Ian Bullock, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Trenau Arriva Cymru, "Mae'r gwaith gwella wedi'i ddylunio'n benodol i wella mynediad a chynnig amrywiaeth ehangach o wasanaethau. "Bydd y gwaith yn gwneud gorsaf Abertawe yn briodol i'r unfed ganrif ar hugain, a gobeithiwn y bydd yn annog mwy o bobl i roi cynnig ar y trên." Meddai Chris Rayner, Cyfarwyddwr Llwybrau Network Rail, "Mae gorsafoedd yn flaen siop i reilffyrdd, ac maent wedi cael eu hanwbyddu yn rhy hir. Dros y pum mlynedd nesaf, mae gorsafoedd ymysg prif flaenoriaethau Network Rail, ac ynghyd â'n partneriaid, byddwn yn buddsoddi tua £85m i wella gorsafoedd yng Nghymru erbyn 2014. "Mae Abertawe ymysg y gorsafoedd niferus a fydd yn elwa ar y buddsoddiad ehangach hyn. Bydd yr orsaf wedi'i thrawsnewid yn gatalydd i dwf pellach yn y defnydd o reilffyrdd yn Abertawe, ac yn helpu i ddarparu amgylchedd llawer gwell yn y ddinas. "Rydym wedi gwrando ar deithwyr, a bydd y cynllun hwn yn ymateb i'w hanghenion drwy wella eu profiad teithio fel bod eu teithiau rheilffordd bob amser yn gyfforddus, yn gyfleus ac yn ddiogel." Meddai Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, "Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o'r prosiect partneriaeth hwn, sy'n ateb un arall o'r ymrwymiadau yn ein Cynllun Cludiant Cenedlaethol. Rwy'n si?r fy mod yn siarad ar ran ein holl bartneriaid - Network Rail, Trenau Arriva Cymru a Chyngor Abertawe - wrth ddweud bod pob un ohonom yn edrych ymlaen yn fawr at weld dechrau'r gwaith mawr ei angen. "Mae hwn yn sicr yn gyfnod cyffrous i Abertawe. Rwy'n si?r y bydd teithwyr yn falch iawn o'u gorsaf newydd, fwy diogel am flynyddoedd i ddod." Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, y cynghorydd Chris Holley, "Mae diweddaru gorsaf drenau Abertawe yn newyddion gwych. Mae'r orsaf yn un o byrth allweddol y ddinas, ac mae'n cynnig golwg gyntaf o Abertawe i nifer o bobl. Mae'r gwaith yn hanfodol i sicrhau bod yr argraff hon yn gadarnhaol. "Mae bwysig iawn bod gan Abertawe rwydwaith cludiant cyhoeddus yn ei lle sy'n briodol i'r unfed ganrif ar hugain, a bydd y gwaith diweddaru hwn yn ategu gwaith parhaus i ailwampio gorsaf fysus y Cwadrant, dychweliad y fferi Abertawe i Cork a chyflwyno gwasanaeth cat cyflym rhwng Abertawe ac Ilfracombe. "Mae hwn yn gyfnod addawol iawn i Stryd Fawr Abertawe, a bydd yn hybu ei hadfywiad. Bydd y cynllun yn bodoli ochr yn ochr â phrosiectau megis cynlluniau Pentref Dinesig ar gyfer rhan o'r Stryd Fawr dan arweiniad y Gr?p Tai Coastal i greu ardal y gall pobl Abertawe ymfalchïo ynddi." Cynhelir y gwaith gwella yng ngorsaf drenau Abertawe mewn dau gam i gyflwyno manteision i deithwyr fesul cam. Bydd teithwyr yn manteisio ar ardal gynnull well erbyn 2011, cyn i waith pellach ddechrau ar yr ardal blatfform yn yr ail gam. Cynhelir y gwaith gwella gyda chyn lleied o darfu ar deithwyr â phosib, a chymerir camau ychwanegol i gadw'r orsaf ar agor bob amser.
|
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Chwefror 8 2010