||
||
Newid maint y testun
| Gwrando ar y wefan yma Listen to this website | Testun yn Unig | Arferol| Cyferbynnu
Logo to act as a header and advert for Dinas a Sir Abertawe|
Website URL : http://www.abertawe.gov.uk/index.cfm?articleid=35329
||

Posibilrwydd y bydd y Ganolfan Tenis yn cau yn sgîl diffyg arian

Gallai camau arbed arian a gynigiwyd gan Gyngor Abertawe i helpu i gael y ddeupen ynghyd olygu y bydd Canolfan Tenis Abertawe'n cau.

image depicting Tennis ball

Mae cynnig i gau'r cyfleuster yn y Morfa yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad i'w ystyried gan Gabinet Cyngor Abertawe.

Mae Cyngor Abertawe am wneud arbedion sylweddol ar draws sawl un o'i wasanaethau dros y flwyddyn ariannol nesaf i geisio lleihau'r diffyg o £17miliwn yn y gyllideb.

Mae swyddogion yn y Cyngor am gau'r bwlch ariannol drwy gyfuniad o ffyrdd megis toriadau mewn gwasanaethau a defnyddio arian a gedwir wrth gefn.

Mae Canolfan Tenis Abertawe'n costio tua £120,000 y flwyddyn i'r Cyngor ei chynnal.

Byddai staff sy'n gweithio yno ar hyn o bryd yn cael eu hadleoli os caiff y cynnig i gau'r cyfleuster ei gefnogi gan y Cabinet a'r Cyngor llawn.

Mae canolfannau tennis eraill ar gael ar draws y ddinas yng Nghanolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt, Bae Langland, Parc Treforys, Parc Williams, Parc Victoria, Parc Ynystawe, Cyfadeilad Chwaraeon Elba, Parc Cwmdonkin , Parc De La Beche a'r Mwmbwls.

Bydd Cyngor Abertawe hefyd yn gweithio'n agos ochr yn ochr â Tennis Cymru a'r Sefydliad Tenis Lawnt (LTA) i sicrhau darpariaeth tenis o safon yn yr ardal os caiff y cynnig i gau Canolfan Tenis Abertawe ei gefnogi.

Meddai'r Cyng. Chris Holley, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'n gyfnod economaidd cythryblus ac mae'n rhaid i bob Cyngor wneud penderfyniadau anodd iawn yn wyneb y cyfyngiadau ariannol.

"Mae'n rhaid i ni flaenoriaethu rhai gwasanaethau a chyfleusterau dros eraill ac mae'n bosib y byddai cynnig i gadw Canolfan Tenis Abertawe ar agor wedi arwain at doriadau mewn gwasanaethau rheng flaen.

"Bydd staff yn y Ganolfan Tenis yn cael eu hadleoli os caiff y cynnig ei gefnogi ac rydym yn parhau'n ymrwymedig i denis ar draws y ddinas.

"Byddwn yn gweithio'n galed yng ngwyneb adfyd i sicrhau y bydd safon uchel o denis yn parhau i fod ar gael yn Abertawe yn y tymor hir."

* Sign up for daily news alerts at www.swansea.gov.uk/subscribe

* Follow us on Twitter

* Council News Feed

© 2010 Dinas a Sir Abertawe
Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. SA1 3SN. Ffôn: 01792 636000 Ffacs: 01792 636340