|
|
||
Diogelwch Cymunedol![]() Mae Diogelwch Cymunedol yn ymwneud â gwneud ein cymunedau'n llefydd mwy diogel a gwell i fyw a gweithio ynddynt, drwy weithio mewn partneriaeth i leihau troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.Diogelwch Cymunedol yw'r teitl a roddir i waith a gyflawnir i leihau troseddau, ofn troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein dinas. O fewn Tîm Diogelwch Cymunedol Cyngor Abertawe mae swyddogion yn gyfrifol am gyflawni gwaith i leihau troseddau ceir, byrgleriaeth cartrefi, troseddau ieuenctid, troseddau busnes, ymddygiad gwrthgymdeithasol a bod ag ofn troseddau. Mae'n dîm a chanddo ystod eang o sgiliau ac arbenigedd sy'n darparu gwasanaethau hanfodol gan gynnwys:
Mae'r Tîm Diogelwch Cymunedol yn rhan annatod o Bartneriaeth Abertawe Mwy Diogel - gr?p o sefydliadau sy'n ymrwymedig i weithio gyda'i gilydd i greu dinas fwy diogel. Prif asiantaethau'r bartneriaeth yw'r heddlu, y cyngor, y gwasanaeth tân ac achub, y gwasanaeth iechyd a Gwarchod y Gymdogaeth. Mae Abertawe Mwy Diogel hefyd yn cynnwys ystod eang o sefydliadau a grwpiau gwirfoddol eraill sydd oll yn gweithio i leihau troseddau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a bod ag ofn troseddau. Mae Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel yn trefnu ac yn gweithredu prosiectau a gweithgareddau i daclo materion troseddau lleol. Mae'n cynnwys popeth o dafarnau a chlybiau'n defnyddio gwydrau plastig caled i farsialiaid tacsis i systemau CCTV i ddiogelwch yn y cartref. Fodd bynnag, nid yw Diogelwch Cymunedol yn ymwneud â lleihau troseddau'n unig. Mae hefyd yn ymwneud â goresgyn y rhwystrau rhwng rhannau gwahanol o'r gymuned ac ymdrin â ffactorau megis methu yn yr ysgol, dirywio teuluol a beichiogrwydd ymysg merched yn eu harddegau. Ewch i wefan Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel am ragor o wybodaeth. Defnyddiwch y ddolen ar yr ochr dde. Y Tîm Diogelwch Cymunedol Swyddog Tawelu Meddwl, Katy Simmons Fiona Hughes |
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Chwefror 13 2013