|
|
||
Cefnogaeth, Cyngor a Grantiau Busnes![]() Mae rhwydwaith ardderchog ar gyfer cefnogi busnesau yn AbertaweRhwydwaith gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth yw'r Ganolfan Fusnes ar gyfer pob busnes bach a chanolig yn Abertawe. Os oes angen gwasanaeth busnes arnoch ond nid ydych yn gwybod pwy i gysylltu â nhw, ffoniwch y Ganolfan Fusnes ar 01792 545050 neu ewch i'n gwefan yn www.businesscentreswansea.com Byddant yn eich helpu chi i gysylltu â gwasanaethau cefnogi gwerthfawr a fydd o fudd i chi a'ch busnes. Yn ogystal â'ch arwain at wasanaethau sefydliadau eraill, gall Canolfan Fusnes Abertawe gynnig amrywiaeth o wasanaethau ei hun:
Mae llawer o'r meysydd hyn yn derbyn cyllid sylweddol gan y WDA ac ELWA, a chefnogaeth gan nifer o sefydliadau busnes lleol, felly mae'r rhan fwyaf o wasanaethau ar gael am ddim. Bydd y Grant Cefnogi Busnes, a ariennir yn rhannol dan Raglen ERDF (Amcan 1) yr Undeb Ewropeaidd, yn darparu cefnogaeth ariannol i fusnesau bach a chanolig cymwys a dichonadwy er mwyn sicrhau goroesiad, twf ac amrywiad y busnes. Hyfforddiant Cyflogaeth yw un o'r Darparwyr Hyfforddiant Galwedigaethol mwyaf yng Nghymru ac mae wedi gweithio'n llwyddiannus gyda Busnesau Lleol a Chenedlaethol am fwy nag 20 mlynedd, gan helpu i leihau a mynd i'r afael â'r prinder sgiliau a chau bylchau sgiliau ar draws Sir Abertawe. Cysylltwch â ni yn y cyfeiriad canlynol : Canolfan Fusnes Abertawe
Employment Training is one of the largest Vocational Training Providers in Wales and has successfully worked with Local and National Businesses for over 20 years, helping to address and reduce the skills shortages and close skills gaps across the County of Swansea.
|
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Medi 8 2010