||
||
Newid maint y testun
| Gwrando ar y wefan yma Listen to this website | Testun yn Unig | Arferol| Cyferbynnu
Logo to act as a header and advert for Dinas a Sir Abertawe|
Website URL : http://www.swansea.gov.uk/index.cfm?articleid=85
||

Ymwadiad

Mae Dinas a Sir Abertawe wedi gwneud pob ymdrech i ddarparu gwybodaeth gywir a diweddar. Fodd bynnag, ni all Dinas a Sir Abertawe dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, difrod neu anghyfleustra sy'n digwydd o ganlyniad i ddefnyddio'r safle hwn.

Gallai ein gwedudalennau gynnig dolenni gyda phob ewyllys da i wefannau eraill pan fo'n briodol.  Dyw'r Dinas a Sir Abertawe ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol.  Ni fydd yr awdurdod hwn yn atebol am arddangos gwybodaeth anghywir neu am unrhyw ddigwyddiadau trafferthus a allai godi ar ôl cysylltu â'r safleoedd hynny.

Firysau

Mae'r Cyngor yn gwneud pob ymdrech i wirio am firysau yn y ffeiliau sydd ar gael i'w lawrlwytho ar y safle hwn. Ni all y Cyngor dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddigwydd o ganlyniad i ddefnyddio deunydd a gafodd ei lawrlwytho. Argymhellwn fod pob defnyddiwr yn ailwirio'r holl ddeunydd a gafodd ei lawrlwytho gyda'i feddalwedd gwirio firysau ei hun.

Hawlfraint

Hawlfraint © Dinas a Sir Abertawe

Oni bai y nodir i'r gwrthwyneb, mae'r tudalennau hyn yn destun hawlfraint. Gwaherddir ailgynhyrchu'r deunydd hwn ar unrhyw ffurf heb ganiatâd ysgrifenedig Dinas a Sir Abertawe. Mae cyfraith Cymru a Lloegr yn berthnasol i gynnwys y Wefan hon. Gall fod hawliau eiddo deallusol ar gyfer peth o'r deunydd hwn gan awduron unigol. Ni ellir defnyddio logo Dinas a Sir Abertawe ar unrhyw ffurf heb ganiatâd ysgrifenedig.

© 2010 Dinas a Sir Abertawe
Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. SA1 3SN. Ffôn: 01792 636000 Ffacs: 01792 636340