Toglo gwelededd dewislen symudol

Masnachu ar y Sul

Mae Deddf Masnachu ar y Sul 1994 yn gosod cyfyngiadau ar oriau agor rhai siopau manwerthu ar ddydd Sul.

Mae p'un a oes angen i chi gydymffurfio â'r ddeddf ai peidio yn dibynnu ar faint eich siop a'r mathau o nwyddau rydych yn eu gwerthu.

Siopau mawr

Siop fawr yw siop lle mae'r rhan o'r adeilad a ddefnyddir i wasanaethu cwsmeriaid ac arddangos nwyddau yn fwy na 280 metr sgwâr (3014 troedfedd sgwâr).

  • Gall siopau mawr agor am gyfnod o chwe awr barhaus rhwng 10.00am a 6.00pm.

Os ydych yn berchen ar siop fawr ac am newid yr oriau rydych yn masnachu ar ddydd Sul, nid oes rhaid i chi roi gwybod i ni. Mae'n rhaid arddangos hysbysiad yn nodi'ch oriau agor ar ddydd Sul yn glir y tu mewn ac y tu allan i'ch siop.

Nid yw agor y drysau i'r cyhoedd cyn 10.00am yn drosedd, fodd bynnag ni ellir gwerthu nwyddau cyn yr amser hwn.

Os ydych yn gwasanaethu cwsmer ar ôl eich amser cau, byddwch yn cyflawni trosedd oni bai y gallwch brofi bod y cwsmer yn y siop cyn yr amser cau a'i fod wedi gadael ddim hwyrach na hanner awr ar ôl yr amser hwnnw.

Siopau bach

Siop fach yw siop lle mae'r rhan o'r adeilad a ddefnyddir i wasanaethu cwsmeriaid ac arddangos nwyddau yn 280 metr sgwâr (3014 troedfedd sgwâr) neu'n llai.

  • Gall pob siop fach agor ar ddydd Sul heb gyfyngiad.

Oriau agor dros y Nadolig a'r Pasg

Ni chaniateir i siopau mawr fasnachu ar ddydd Sul y Pasg nac ar ddydd Nadolig os yw ar ddydd Sul. Ni chyfyngir siopau bach.

Eithriadau

  • Fferyllfeydd cofrestredig sy'n gwerthu meddyginiaeth yn unig
  • Siopau fferm
  • Gorsafoedd gwasanaethau a gorsafoedd petrol

I gael rhestr lawn o eithriadau, ffoniwch 01792 635600 neu e-bostiwch bwydadiogelwch@abertawe.gov.uk.

Busnesau bwyd a diod

Nid yw'r ddeddf yn berthnasol i werthu prydau, lluniaeth neu wirod meddwol i'w bwyta/yfed ar y safle lle cânt eu gwerthu, nac i werthu prydau neu luniaeth a gaiff eu paratoi yn ôl yr archeb i'w bwyta/yfed yn syth oddi ar y safle hwnnw.

Close Dewis iaith