Toglo gwelededd dewislen symudol

Mawr/Ucheldir Abertawe

Mae Mawr/Ucheldir Abertawe yn cynnwys Cefn Drum, Graig Fawr, Mynydd y Gopa, Pentwyn Mawr, Mynydd Pysgodlyn, Mynydd y Gwair a thir i'r gogledd-orllewin o Glydach, sef Banc Darren-fawr.

Ardal enfawr o dir comin yw hon yng ngogledd Dinas a Sir Abertawe. Ceir golygfeydd godidog o'r gweundir uchel, agored hwn. Rhedyn yw'r planhigyn mwyaf cyffredin ond mae grug a llusi'n tyfu ar Fynydd Pysgodlyn.

Mae safle angladdol a defodol cynhanes gerllaw'r heol ar y copa. Mae da byw y werin yn pori'n helaeth yn yr ardal. Mae'r pwynt uchaf yn Abertawe, Penlle'r Castell sy'n 371m uwchlaw lefel y môr, yn rhan fwyaf gogleddol yr ardal hon ar Fynydd y Gwair.

Mae gan Fynydd y Gopa, sef llethr sy'n wynebu'r gogledd-orllewin yn bennaf, gynefinoedd cymysg o goetir, gweundir agored a nant sy'n llifo yng ngwaelod y cwm ar ymyl ogleddol y safle. Mae Bryn-bach i'r de o Fynydd y Gopa ac yn weundir agored â llwybrau sy'n croesymgroesi ei gilydd.

Uchafbwyntiau

Gweundir agored yw'r ardal hon yn bennaf â golygfeydd gwych - hafan i'r rhai sy'n chwilio am anialwch a mannau agored. Y gigfran a'r cudyll coch.

Dynodiadau

  • Mae Graig Fawr yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
  • Mae'r ardal gyfan hon yn rhan o Safle o Bwys Cadwraeth Natur mawr (SBCN, Banc Darren-fawr)
  • Tir Mynediad Agored
  • Heneb Gofrestredig GM022 - Beddrod Crwn

Gwybodaeth am fynediad

Cyfeirnod Grid SNS655070
Map Explorer yr AO 165 Abertawe

Llwybrau

Ar wahân i Lwybr Illtud Sant sy'n ymestyn ar draws Graig Fawr, prin yw'r hawliau tramwy sydd yno. Fodd bynnag, tir mynediad agored yw'r holl dir comin hwn ac mae nifer o ffyrdd a llwybrau sy'n ei groesi.

Bysus

Y ffordd hawsaf o gyrraedd yr ucheldir o Abertawe yw trwy Bontarddulais.

Close Dewis iaith