Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gwneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni

Cyngor a chyllid i helpu i arbed ynni ac arian yn eich cartref.

Rydym yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â thlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni gwael yn ein stoc tai yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Rydym wedi ymrwymo i gynorthwyo Llywodraeth y DU i gyflawni'r targed o allyriadau sero net erbyn 2050 a dyma un o'n blaenoriaethau allweddol wrth i ni gydnabod ei bwysigrwydd a bygythiad byd-eang newid yn yr hinsawdd.

Ffyrdd syml o arbed arian ar eich biliau ynni

  1. Trowch eich thermostat i lawr 1 radd
  2. Llenwch unrhyw le gwag yn eich rhewgell â phapur newydd wedi'i rolio
  3. Tynnwch eich llenni adeg y cyfnos
  4. Diffoddwch y goleuadau mewn ystafelloedd nad ydych yn eu defnyddio a defnyddiwch fylbiau sy'n arbed ynni
  5. Peidiwch â gadael teclynnau mewn modd segur
  6. Peidiwch â llenwi'r tegell â dŵr diangen
  7. Rhowch lwyth llawn mewn peiriannau golchi a sychu oni bai fod gennych osodiadau hanner llwyth
  8. Peidiwch â gadael i dapiau ddiferu, yn enwedig tapiau dŵr poeth
  9. Caewch ddrysau i gadw gwres mewn ystafelloedd
  10. Addaswch y system rheoli gwres (gweler cyfarwyddiadau penodol am wres) 21°c yn ystafell fyw 18°c mewn mannau eraill

 

Grantiau a chyngor effeithlonrwydd ynni

ECO Flex

Cael help gydag effeithlonrwydd ynni (Llywodraeth Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)

Dod o hyd i grantiau ynni a ffyrdd o arbed ynni yn eich cartref (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)

Hwb Hybu Ynni

ECO Flex

Cynllun y llywodraeth yw ECO Flex sy'n darparu cyllid ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn y cartref megis system gwres canolog newydd, gwella'r system wresogi bresennol a/neu inswleiddio.

Y Cynllun Uwchraddio Boeleri

Mae'r Cynllun Uwchraddio Boeleri'n darparu grantiau i annog perchnogion eiddo i gael gwared ar systemau gwresogi tanwydd ffosil presennol a gosod systemau gwresogi mwy effeithlon, carbon isel yn eu lle.
Close Dewis iaith