Toglo gwelededd dewislen symudol

Mynegai Anabledd Plant

Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol yn ôl y gyfraith i gynnal cofrestr plant anabl yn eu hardaloedd sydd ag unrhyw anabledd sy'n cael 'effaeith sylweddol ar eu bywyd bob dydd'.

Yn Abertawe, gelwir y gofrestr plant anabl yn 'Fynegai Anabledd Plant'.

Enghreifftiau o blant sydd wedi'u cofrestru ar y Mynegai yn cynnwys rhai gyda:

  • Anhwylder sbectrwm awtistig
  • Anawsterau ymddygiad/cymdeithasol/emosiynol
  • Cyflwr meddygol
  • Anabledd corfforol
  • Nam synhwyraidd
  • Anabledd/anhawster dysgu
  • Anableddau lluosog.

Diben Mynegai Anabledd Plant Abertawe yw:

  • Casglu a chyflenwi gwybodaeth er mwyn cynllunio i'r blynyddoedd i ddod a'r dyfodol agos 
  • Gweithredu fel porth i'r Awdurdod Lleol a'i bartneriaid ofyn i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd am eu barn a'r hyn mae arnynt ei eisiau.
  • Darparu gwybodaeth ystadegol i'r Llywodraeth.

Sut i gofrestru

Mae cofrestru ar y Mynegai Anabledd Plant yn wirfoddol.

Gall rhiant, neu brif ofalwr gofrestru person ifanc ar y mynegai neu gall y person ifanc gofrestru ei hunan (gan ddibynnu ar ei oedran a'i ddealltwriaeth).

Mynegai Anabledd Plant - cofrestru ar-lein Mynegai Anabledd Plant - cofrestru ar-lein

Os hoffech siarad â rhywun am gofrestru ar y Mynegai neu os oes gennych sylwadau eraill am y Mynegai, gallwch gysylltu â Gweinyddwr y Mynegai Anabledd Plant.

Mynegai Anabledd Plant - cofrestru ar-lein

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i gofrestru gyda'r Mynegai Plant Anabl Abertawe.

Cwestiynau cyffredin am y Mynegai Anabledd Plant

Rhestri o'n cwestiynau mwyaf cyffredin am y Mynegai Anabledd Plant.
Close Dewis iaith