Toglo gwelededd dewislen symudol

Parc y Werin

Gyda dwy lawnt fowlio a chae pêl-droed, mae gan Barc y Werin nifer o gyfleusterau gwych i ddenu ymwelwyr o bob oed a'u cadw'n actif.

Mae'r parc yng nghanol cymuned Gorseinon ac mae'n adnodd gwych ar gyfer y rhai sy'n byw yn yr ardal. Mae gan y parc hefyd fannau agored mawr sy'n ddelfrydol ar gyfer mynd a'm dro gyda'ch ci neu redeg.

Cyfleusterau

  • Ardal Chwarae i blant
  • Lawnt fowlio
  • Meysydd pêl-droed

Cyfarwyddiadau

Ar y ffordd i groesffordd Gorseinon o Stryd y Gorllewin (B4296), trowch i'r chwith i Heol Alexandra. Trowch i'r dde i Stryd y Dywysoges ac i'r chwith wrth y cylchfan bach i Heol Brynawel. Mae mynedfa'r parc ar y chwith.

Côd Post - SA4 4UX

Close Dewis iaith