Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

ParkLives

Mae ParkLives yn cynnig gweithgareddau difyr mewn parciau, gan annog pobl i wneud ffrindiau newydd a mwynhau mannau gwyrdd yn eu cymunedau lleol.

Parklives

­­­­­

Active Older Adults (IS)
O feiciau cydbwysedd a sesiynau dros dro i droeon iechyd yn y gymuned, yn ogystal â T'ai Chi, cerdded Nordig a ffitrwydd llai heriol, mae amrywiaeth o sesiynau ParkLives sy'n addas i bawb. Mae'r gweithgareddau a nodir ar yr amserlen fel arfer yn awr o hyd ac yn cael eu harwain gan arweinwyr sesiwn cefnogol, cyfeillgar a hyfforddedig a gwirfoddolwyr o'r gymuned leol.

Sesiynau Gwyliau'r Pasg yma: Parklives (Yn agor ffenestr newydd)

Sesiynau ParkLives ar hyn o bryd

  • Dawns - Iechyd a ffitrwydd, Dydd Llun, Forge Fach (Clydach), 10.30am -12.30pm. Dosbarth difyr i wella cydbwysedd, cryfder, ystwythder a hyblygrwydd i gefnogi hirhoedledd ac atal cwympiadau. Bydd paned a sgwrs ar ôl y dosbarth. Ffoniwch Vic ar 07795 295409 am ragor o wybodaeth ac i gadw lle.
  • Cerdded Nordig 16+, dydd Mawrth, Parc Cwmdoncyn, 10.00am - 10.45am.
  • Reidiau gyda chydymaith, Dydd Mercher, Clwb Rygbi Dyfnant, 10.00am - 12.00pm. Rhaid archebu'n uniongyrchol â Bike Ability Wales drwy ffonio 07584 044284.
  • Ffitrwydd Ysgafn i Oedolion Hŷn, dydd Mercher, Canolfan Gymunedol Parc Sgeti, 10.00am - 10.45am.
  • Pilates 16+, dydd Mercher, Neuadd Llewelyn, 10.30am - 11.15 am.
  • T'ai Chi 16+, dydd Sadwrn, Canolfan Gymunedol San Phillip, 10.00am - 11.00am.

Cynhelir mynyddfyrddio ddwywaith y mis ar benwythnosau - mae'r parciau a'r diwrnodau'n amrywio, felly gweler y ddolen archebu am ddyddiadau a lleoliadau penodol.

Cymerwch gip ar y rhestr lawn o weithgareddau ac archebwch le drwy ticketsource: www.ticketsource.co.uk/swanseasportandhealth

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: Park.Lives@abertawe.gov.uk

Y newyddion diweddaraf

Cadwch lygad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth am sesiynau a digwyddiadau sydd ar ddod Chwaraeon ac Iechyd Abertawe Twitter (Yn agor ffenestr newydd) a Chwaraeon ac Iechyd Abertawe Facebook (Yn agor ffenestr newydd).

Mae menter ParkLives yn cael ei arwain yn uniongyrchol gan dîm Chwaraeon ac Iechyd Cyngor Abertawe. Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol o ganlyniad i ymrwymiad gan Coca-Cola Great Britain i fuddsoddi mewn prosiectau cymunedol.

Close Dewis iaith