Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Problemau sŵn

Gall sŵn uchel beri gofid ac anesmwythyd i bobl yn eu cartrefi. Os ydych yn cael problemau gyda sŵn eithafol, mae pethau y gallwch eu gwneud i helpu i ddatrys y broblem.

Sut gallwch fynd i'r afael â phroblemau sŵn?

Y peth cyntaf y dylech ei wneud yw siarad â'r person neu'r busnes sy'n achosi'r broblem gyda sŵn.  Efallai nad ydynt yn sylweddoli bod problem yn bodoli ac yn aml byddant yn barod i helpu.

Beth gall y cyngor ei wneud am broblemau sŵn?

Synau y gallwn ddelio â hwy

Sŵn domestig - cerddoriaeth uchel, cŵn yn cyfarth, larymau clywadwy;

Sŵn masnachol/diwydiannol - sŵn o fangreoedd masnachol (e.e. siopau, tafarndai); ffatrïoedd a safleoedd diwydiannol; sŵn adeiladu a dymchwel; larymau clywadwy

Cerbydau - larymau ceir; a stereos ceir (pan fo'r cerbyd yn llonydd).

Synau na allwn ddelio â hwy

  • plant neu bobl ifanc sy'n achosi annifyrrwch
  • gweiddi/sgrechian a chlepian drysau
  • sŵn o draffig gan gynnwys pibellau gwacáu swnllyd
  • awyrennau milwrol neu awyrennau sifil
  • tân gwyllt (nid oes gan y cyngor unrhyw reolau lleol am danio tân gwyllt)

Sut i adrodd am broblem sŵn y gall y cyngor ddelio â hi

Gallwch adrodd am niwsans sŵn ar-lein gan ddefnyddio'r ddolen isod. Bydd angen i chi roi'ch enw a'ch cyfeiriad ac enw (os ydych chi'n ei wybod) a chyfeiriad y sawl sy'n achosi'r broblem.

Sut gallwch atal sŵn gormodol rhag dod o'ch cartref?

  • peidiwch â rhoi seinyddion ar y waliau
  • gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu clywed cloch y drws uwchben y gerddoriaeth neu'r teledu
  • cadwch lefel y sŵn yn isel yn hwyr yn y nos
  • rhowch wybod i'ch cymdogion os ydych yn cael parti
  • peidiwch â gadael eich ci heb gwmni am gyfnodau hir
  • os yw eich ci'n cyfarth, ceisiwch weld pam a'i dawelu
  • peidiwch â defnyddio'ch peiriant golchi neu'ch peiriant sychu dillad yn hwyr yn y nos
  • os ydych yn dychwelyd ar ôl noson mas, gwnewch ymdrech i fod yn dawel - caewch ddrysau car yn ysgafn a siaradwch yn dawel.
  • yn fwy na dim, byddwch yn rhesymol os bydd eich cymydog yn dod atoch gyda phroblem.

Os ydych yn gwneud gormod o sŵn ac yn cael eich erlyn, bydd gan y cyngor y pŵer i fynd â'r holl gyfarpar a all gyfrannu at y niwsans. Mae hyn yn cynnwys setiau teledu a DVD, chwaraewyr Blue Ray, stereos, setiau radio, consolau gemau a chyfrifiaduron. Os cewch eich erlyn a'ch cael yn euog o greu niswans, bydd y cyngor yn gwenud cais i gadw'r eitemau hyn. Bydd gennych gofnod troseddol hefyd.

Cofiwch fod synnau'n rhy uchel os

  • na allwch siarad â rhywun sydd dwy fetr i ffwrdd heb waeddu. Cymerwch hoe ac ewch i ardal dawelach
  • gallwch glywed clychau bach yn eich clustiau ar ôl bod yn rhywle lle cafwyd lefelau uchel o sŵn.

Larymau

Os oes gennych larwm tresmaswyr, gellir ei seinio'n ddamweiniol. Os digwydd hyn pan fyddwch allan o'r tŷ, mae yna beryg y byddwch yn peri poendod i'ch cymdogion a thalu'r pris os bydd rhaid ei dawelu gan swyddogion rheoli sŵn.
Close Dewis iaith