Toglo gwelededd dewislen symudol

Gorchmynion Cadw Coed (GCC)

Mae dros 560 o Orchmynion Cadw Coed (GCC) unigol o fewn ffiniau Dinas a Sir Abertawe ar gyfer coed unigol, grwpiau o goed, 'ardaloedd' a choetiroedd.

Dogfennau sy'n rhoi amddiffyniad cyfreithiol i goed unigol penodol, grwpiau o goed neu goetiroedd o werth amwynder cyhoeddus yw Gorchmynion Cadw Coed. Gall GCC fod yn berthnasol i goeden unigol, grŵp o goed neu goetir. Gellir amddiffyn coeden o unrhyw faint, rhywogaeth neu oedran gan GCC. Fel arfer, mae'r goeden/coed yn weladwy o fan cyhoeddus, gan gyfrannu mewn ffordd gadarnhaol i'r dirwedd. Gyda grwpiau o goed neu goetiroedd, gwerth amwynder y coed ar y cyd sy'n bwysig yn hytrach na rhinweddau unigol pob coeden.

Mae'r gorchymyn yn ei wneud yn drosedd i dorri, dadwreiddio, tocio, difrodi neu ddifetha'r goeden neu'r coed dan sylw. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu na ellir gwneud gwaith arni ond mae'n rhaid cael caniatâd cyn gwneud hynny.

Cyfrifoldeb y tirfeddiannwr o hyd yw coeden a warchodir gan GCC, nid ydym yn gyfrifol am y goeden ac ni fyddwn yn cyfrannu at gost ei chynnal.

Mae adrannau 197 a 198 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn rhoi hawl i awdurdodau cynllunio lleol (ACLl) gyflwyno gorchmynion cadw coed.Mae'n rhaid i ni, fel ACLl, gyfiawnhau gosod GCC a gall perchennog y goeden wrthwynebu gorchymyn o'r fath.

Protocol coed a warchodir (PDF) [741KB]

Yn ogystal, caiff coed mewn Ardaloedd Cadwraeth eu rheoli ardaloedd cadwraeth.

Ymgymryd â gwaith ar goeden a warchodir

Rhaid cael caniatâd cyn ymgymryd ag unrhyw waith ar goeden neu goed a warchodir dan Orchymyn Cadw Coed.

Cyflwyno cais am Orchymyn Cadw Coed newydd

Gallwch ddefnyddio'n ffurflen ar-lein i wneud cais am GCC newydd i warchod coeden unigol benodol, grŵp o goed neu goetir.

Coed mewn ardaloedd cadwraeth

Mae coed yn nodweddion gwerthfawr yn ein trefi a'n cefn gwlad a gallant wneud cyfraniad pwysig i gymeriad ac ymdeimlad o le ein hamgylchedd lleol.

Coed ar safleoedd datblygu

Gall coed ar safleoedd datblygu gael eu gwarchod gan Orchmynion Cadw Coed (GCC) a/neu amodau sy'n gysylltiedig a chaniatad cynllunio.

Hysbysiadau cael gwared â gwrychoedd

Efallai bydd angen caniatâd arnoch i gael gwared ar wrych, yn enwedig gwrychoedd sy'n fwy nag 20 metr o hyd neu sy'n cwrdd â gwrych arall ar y naill ben a'r llall.

Cwestiynau cyffredin am Orchmynion Cadw Coed (GCC)

Cwestiynau cyffredin am GCC a choed a warchodir.

Y Tîm Gorchmynion Cadw Coed

Enw
Y Tîm Gorchmynion Cadw Coed
Rhif ffôn
01792 635724
Rhif ffôn symudol
07917 200201
Close Dewis iaith