Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Sefydlu grŵp gwirfoddol

Eisiau gwybod mwy am sut mae sefydlu grŵp a chael mynediad i gyllid?

Ydych chi erioed wedi meddwl am reoli gwasanaeth lleol?  Efallai yr hoffech sefydlu grŵp i reoli'ch parc lleol neu'ch clwb bowls neu ganolfan gymunedol hyd yn oed?

Mae rheoli gwasanaeth yn golygu y gallwch ei lywio fel rydych chi eisiau ac mae cyllid ar gael i grwpiau nad yw Cyngor Abertawe'n gallu cael mynediad iddo.

Cyngor ar gael

Mae Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe yn gallu'ch cynghori ar sefydlu grŵp gwirfoddol newydd.  Mae hefyd yn gallu helpu os ydych yn chwilio am gyllid a chynnig hyfforddiant wedi'i deilwra i wirfoddolwyr.

Cofrestrwch eich diddordeb

Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd gwirfoddoli yn eich cymuned, cyswllt Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (CGGA).

Close Dewis iaith