Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Trwydded amgylcheddol

Os gall eich busnes effeithio ar yr amgylchedd drwy lygredd aer, tir neu ddŵr yna bydd angen i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol.

Mae'r drwydded yn cynnwys amodau sy'n helpu i reoli llygredd. Rhennir trwyddedau'n dri chategori: Rhan A(1), Rhan A(2) a Rhan B.

Mae trwyddedau Rhan A yn rheoli gweithgareddau ag amrywiaeth o effeithiau amgylcheddol, gan gynnwys allyriadau i'r aer, y tir a dŵr; effeithlonrwydd ynni, lleihau gwastraff; defnydd o ddeunyddiau crai; sŵn, dirgryniad a gwres; atal damweiniau.

Mae trwyddedau Rhan B yn rheoli gweithgareddau sy'n achosi allyriadau i'r aer.

Mae'r drwydded y mae ei hangen ar eich busnes yn dibynnu ar y prosesau penodol a ddefnyddir a'r allyriadau sy'n deillio ohonynt.  

Sut gallaf ddarganfod a oes angen trwydded arnaf?

Gallwch wirio a oes angen trwydded amgylcheddol arnoch (Yn agor ffenestr newydd) ar wefan Gov.uk. Gallwch hefyd ffonio Rheoli Llygredd ar 01792 635600 neu e-bostio pollution@swansea.gov.uk.

In partnership with EUGO logo
Sut i wneud cais

Os hoffech wneud cais am drwydded A2 neu Ran B, cysylltwch â ni er mwyn i ni allu eich cynorthwyo gyda'ch cais.

Mae'n rhaid i chi gwblhau'r ffurflen gais yn llawn.  Bydd angen i chi dalu'r ffi ymgeisio pan fyddwch yn cyflwyno'ch ffurflen.

Ffïoedd

Mae'n rhaid i chi gyflwyno'ch ffi gyda'r cais.

Os ydych yn gwneud cais drwy'r post, dylech wneud sieciau'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' a'i hanfon gyda'ch ffurflen sydd wedi'i chwblhau.

Caiff ffïoedd eu pennu gan Lywodraeth Cymru. Gallwch ddod o hyd i'r ffïoedd a'r taliadau diweddaraf ar y tudalennau trwyddedau amgylcheddol (Yn agor ffenestr newydd) ar eu gwefan.

Close Dewis iaith