Chwilio'r wefan
English

10k Bae Abertawe Admiral

Mae 10k Bae Abertawe Admiral yn dychwelyd ym 19 Medi 2021!

Admiral Swansea Bay 10k 2020 Image
19 Medi 2021
9.15AM.
Bae Abertawe

*Ras wedi'i gohirio*

Oherwydd y sefyllfa barhaus, mae'n flin gennym gyhoeddi bod ras 10k Bae Abertawe Admiral 2020, a fyddai hefyd wedi dathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu, wedi'i gohirio tan 19 Medi 2021. Mwy o wybodaeth

 

Cynhelir ras 10k Bae Abertawe Admiral ar hyd bae eiconig a hardd Abertawe ac mae'r ras ar agor i bobl o bob gallu 15+ oed.

Mae'r cwrs cyflym a gwastad yn boblogaidd iawn ymysg rhedwyr newydd a rhedwyr profiadol sydd am wella'u hamser gorau.

Mae hyn i gyd, ar y cyd ag awyrgylch teulu gwych, yn golygu bod y ras wedi ennill gwobr y Ras 10k Orau yng Nghymru yng Ngwobrau Rhedeg 2019.

Mae hefyd yn gyflwyniad gwych i redeg ar y ffordd i blant gyda'n rasys iau 1k a 3k. Mae'r awyrgylch cyfeillgar, llawn hwyl yn sicrhau bod pawb yn mwynhau, ac mae rhieni'n gallu rhedeg gyda'u plant hefyd! Mae'r rasys iau mor boblogaidd, cawsant eu pleidleisio'n Ddigwyddiad Gorau i Blant yng Ngwobrau Rhedeg y DU 2017.

Rhagor o wybodaeth a chofrestru

 

 

Admiral Swansea Bay 10k 2020   Admiral Swansea Bay 10k 40 logo

Wedi'i bweru gan GOSS iCM