Chwilio'r wefan
English

Dros 500 o berfformwyr ifanc i ymddangos yng Ngorymdaith y Nadolig

Bydd cannoedd o bobl ifanc o grwpiau dawns a drama Abertawe'n cymryd rhan yng Ngorymdaith y Nadolig yng nghanol y dref eleni.

Xmas2018

Bydd plant rhwng 3 ac 18 oed yn dawnsio ar hyd llwybr yr orymdaith y mis nesaf.

Maent wedi derbyn gwahoddiad gan Gyngor Abertawe i wisgo i fyny a diddanu miloedd o wylwyr yn yr orymdaith.

Mae'r grwpiau'n cynnwys: Mellin Theatre Arts, Swansea Dance Twerk Team, Cwmni Theatr Acting Up/Academi Maria Evans, Company J, Academi Ddawns Barton, Zumba with Siôn, Ysgol Dawnsio Gwyddelig Bernadette Jones, Swansea Dancing Samba, Menter Chwarae Plant Bôn-y-maen, Ysgol Theatr Class Act, Jermin Productions, Ysgol Ddawns Carley Lewis, Rising Stars, Ysgol Berfformio Joan Williams a Theatr Fach Abertawe.

Bwriedir cynnal Gorymdaith y Nadolig a Chynnau Goleuadau'r Nadolig 2019 Abertawe o 5pm ar 17 Tachwedd.

Bydd y llwybr yn dechrau o ganolfan Dylan Thomas, yn mynd ar hyd Stryd y Gwynt, Stryd y Castell a'r Stryd Fawr, yna i Heol Alexandra, i lawr Stryd y Berllan ac ar hyd Ffordd y Brenin.

Wedi'i bweru gan GOSS iCM