Cynlluniau wedi'u datgelu ar gyfer adeilad uwch-dechnoleg yn Abertawe, a ddylanwadwyd gan farn y cyhoedd
Mae cynlluniau ar gyfer adeilad unigryw a fydd yn galluogi busnesau technoleg a chreadigol ifanc i ddatblygu wedi'u datgelu ar gyfer canol dinas Abertawe.
Maent yn dangos adeilad chwe llawr â blaen gwydr ar hen safle clwb nos Oceana ar Ffordd y Brenin. Gallai dros 600 o bobl weithio yno.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus y llynedd i gael barn y cyhoedd am y cynlluniau, sy'n cynnwys dwy lefel o dan y ddaear a theras ar y to gyda choed. Mae mannau gwyrdd eraill, gan gynnwys to gwyrdd, yn rhan o'r cynlluniau ar gyfer yr adeilad, ac maent yn adlewyrchu ymrwymiad y cyngor at isadeiledd gwyrdd. Teitl gwaith y prosiect yw 71/72 Ffordd y Brenin.
Mae Cyngor Abertawe am ddatblygu'r ganolfan greadigol drawiadol lle bydd mynediad i'r cyhoedd. Mae'n cynnwys llwybr newydd o Stryd Rhydychen i Ffordd y Brenin.
Bydd yr adeilad yn un uwch-dechnolegol ac yn eco-gyfeillgar, gyda mannau gwaith agored a hyblyg gan gynnwys balconïau sy'n edrych dros ganol y ddinas.
Nawr mae gan y cyhoedd gyfle i gyflwyno sylwadau am y cynlluniau drwy broses cais cynllunio cam cynnar, a adwaenir fel ymgynghoriad cyn cyflwyno cais.
Mae ar gael ar-lein yma - www.theurbanists.net/71and72thekingsway - a gallwch gyflwyno sylwadau tan 21 Chwefror.