Gweithio gydag athrawon
Mae perthynas dda rhwng rhieni ac athrawon yn sicrhau bod plant yn derbyn y cymorth priodol yn yr ysgol.
Dylai athrawon a rhieni wneud pob ymdrech i feithrin perthynas dda â'i gilydd.
Dyma'r elfennau allweddol ar gyfer meithrin perthnasoedd iach:
- Yr angen i bob rhan arall o'r bartneriaeth gydweithio.
- Dod i adnabod ei gilydd.
- Pennu dyheadau'r rhieni/athrawon.
- Cytuno ar sut i gydweithio.
- Sefydlu ymddiriedaeth go iawn i alluogi didwylledd a her.
- Athrawon yn meithrin hunan-barch a hyder rhieni. Rhieni'n dangos bod ganddynt hyder yn athro dosbarth/ysgol eu plentyn.
Dylai athrawon hefyd:
- Ragfynegi at unrhyw rwystrau posib a pharatoi ar eu cyfer.
- Pennu dyddiad ar gyfer adolygu cynnydd eich plentyn.
- Cofnodi'r cytundeb mewn 'Cynllun Gweithredu' ar gyfer y plentyn.
- Cefnogi'r rhieni yn eu rol (ee annog, canmol a rhoi adborth).
Dylai rhieni ac athrawon gytuno ar broses adolygu:
- Dylai rhieni ac athrawon unigol gwrdd i werthuso'r cynnydd o ran y camau gweithredu cytunedig a'r deilliannau a fwriedir.
- Dylai athrawon gydnabod cyfraniad y rhiant.
- Dylid dod i gytundeb o ran pa anghenion y mae'n rhaid eu diwallu o hyd.
- Adolygu'r camau gweithredu cytunedig a'r canlyniadau a fwriedir fel y bo'n briodol.
- Pennu dyddiad newydd ar gyfer adolygu cynnydd.