Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gweithio gydag athrawon

Mae perthynas dda rhwng rhieni ac athrawon yn sicrhau bod plant yn derbyn y cymorth priodol yn yr ysgol.

Dylai athrawon a rhieni wneud pob ymdrech i feithrin perthynas dda â'i gilydd.

Dyma'r elfennau allweddol ar gyfer meithrin perthnasoedd iach:

  • Yr angen i bob rhan arall o'r bartneriaeth gydweithio.
  • Dod i adnabod ei gilydd.
  • Pennu dyheadau'r rhieni/athrawon.
  • Cytuno ar sut i gydweithio.
  • Sefydlu ymddiriedaeth go iawn i alluogi didwylledd a her.
  • Athrawon yn meithrin hunan-barch a hyder rhieni. Rhieni'n dangos bod ganddynt hyder yn athro dosbarth/ysgol eu plentyn.

Dylai athrawon hefyd:

  • Ragfynegi at unrhyw rwystrau posib a pharatoi ar eu cyfer.
  • Pennu dyddiad ar gyfer adolygu cynnydd eich plentyn.
  • Cofnodi'r cytundeb mewn 'Cynllun Gweithredu' ar gyfer y plentyn.
  • Cefnogi'r rhieni yn eu rol (ee annog, canmol a rhoi adborth).

Dylai rhieni ac athrawon gytuno ar broses adolygu:

  • Dylai rhieni ac athrawon unigol gwrdd i werthuso'r cynnydd o ran y camau gweithredu cytunedig a'r deilliannau a fwriedir.
  • Dylai athrawon gydnabod cyfraniad y rhiant.
  • Dylid dod i gytundeb o ran pa anghenion y mae'n rhaid eu diwallu o hyd.
  • Adolygu'r camau gweithredu cytunedig a'r canlyniadau a fwriedir fel y bo'n briodol.
  • Pennu dyddiad newydd ar gyfer adolygu cynnydd.

 

Close Dewis iaith