Meithrin partneriaethau â rhieni
Mae perthnasoedd cryf rhwng rhieni a gweithwyr proffesiynol yn hanfodol i hybu dysgu a datblygiad plentyn. Dyma ragor o wybodaeth am y partneriaethau hyn a'r partneriaid gwahanol a all fod yn ymwneud a'ch plentyn.
Mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth i sicrhau ein bod yn cael y canlyniadau gorau i'ch plentyn. Mae angen ymddiriedaeth, ymroddiad a pharch i wneud hyn. Mae'n arbennig o bwysig datblygu perthnasoedd cadarnhaol rhwng pawb sy'n ymwneud a'ch plentyn neu'ch person ifanc.
Mae gan bob partner rol bwysig i'w chwarae wrth ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol ac adeiladol a'ch plentyn neu'ch person ifanc.
Mae hyn yn cynnwys yr awdurdod lleol, ysgolion ac asiantaethau allanol yn ogystal a rhieni a theuluoedd.
Mae pobl amrywiol yn gweithio mewn partneriaeth wrth ddarparu addysg ar gyfer eich plentyn:
- Yr ysgol
- Y pennaeth
- Yr athro dosbarth
- Athrawon arbenigol
- Yr awdurdod lleol
- Arbenigwyr iechyd
- Rhieni.
Fel rhan o'r cylch parhaus i helpu'ch plentyn, mae PEDWAR cam pwysig iawn er mwyn diwallu Anghenion Dysgu Ychwanegol eich plentyn. Mae hyn yn cynnwys:
- Nodi ac asesu anghenion eich plentyn.
- Cynllunio darpariaeth addas.
- Rhoi camau gweithredu cytunedig a chanlyniadau bwriadedig clir ar waith.
- Ac adolygu'r ddarpariaeth i sicrhau ei bod yn diwallu anghenion eich plentyn.
Datblygu partneriaethau effeithiol
Rolau a chyfrifoldebau
Y broses bartneriaeth
Goresgyn rhwystrau
Gweithio gydag athrawon
Additional Learning Needs and Inclusion Team
- Enw
- Additional Learning Needs and Inclusion Team
- E-bost
- ALNU@swansea.gov.uk