Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Pennaeth a staff yr ysgol

Y pennaeth yw'r uwchathro yn yr ysgol ac mae'n gyfrifol am addysg yr holl ddisgyblion. Dyma ragor o wybodaeth am gyfrifoldebau'r pennaeth o ran cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Dylai pennaeth yr ysgol, mewn cydweithrediad a'r corff llywodraethu:

  • Bennu polisi cyffredinol yr ysgol a'i hymagwedd at ddarpariaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.
  • Sefydlu'r trefniadau staffio a chyllido priodol.
  • Goruchwylio gwaith yr ysgol yn gyffredinol.

Mae gan bennaeth yr ysgol gyfrifoldeb am reoli'r holl agweddau ar waith yr ysgol o ddydd i ddydd, gan gynnwys y ddarpariaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol. Bydd angen i'r pennaeth roi'r holl wybodaeth i'r corff llwydoraethu. Bydd angen i'r pennaeth hefyd weithio'n agos gyda Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cydlynydd ADY) dynodedig yr ysgol i sicrhau y gwneir darpariaeth effeithiol ac effeithlono er mwyn diwallu anghenion dysgu ychwanegol.

Staff yr ysgol

Dylai'r holl staff addysgu a chefnogi fod yn rhan o ddatblygu ac adolygu polisi anghneion dysgu ychwanegol yr ysgol. Dylent fod yn llwyr ymwybodol o arferion a gweithdrefnau'r ysgol wrth ddiwallu anghenion dysgu ychwanegol a'u rol a'u cyfrifoldebau yn yr arferion a'r gweithdrefnau hynny. 

Close Dewis iaith