Toglo gwelededd dewislen symudol

Rôl rhieni a gofalwyr

Mae gan rieni a gofalwyr rol bwysig i'w chwarae yn addysg eu plant.

Dyma rai o gyfrifoldebau pwysig rhieni a gofalwyr:

  • Cysylltu'n rheolaidd a'r ysgol.
  • Cyfathrebu'n dda ag athrawon - rhoi gwybod iddynt cyn gynted a phosib am unrhyw bryderon am eu plentyn neu'r ysgol. Hefyd, dylai athrawon ddweud wrth yr ysgol am unrhyw wybodaeth bwysig y gall fod ei hangen arnynt (oherwydd gallai hyn effeithio ar y ffordd y maent yn cefnogi eu plentyn).
  • Sicrhau bod eu plentyn yn mynd i'r ysgol yn rheolaidd.
  • Cefnogi eu plentyn gydag unrhyw dasgau gwaith cartref.
  • Sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau dan y cytundeb cartref ysgol.
  • Trin gweithwyr proffesiynol a pharch yn ystod unrhyw gysylltiad a hwy.
  • Cyfranogi (a chymryd rhan) yn y broses o adolygu cynnydd eu plentyn ac mewn penderfyniadau a wneir am addysg eu plentyn.
  • Mynd gyda'u plentyn i gyfweliad, apwyntiad meddygol neu asesiad.

Yr hyn y gallwch ei wneud:

  • Cefnogi addysg eich plentyn neu'ch person ifanc a'i helpu i gyflawni ei botensial.
  • Cymryd rhan weithredol yn addysg eich plentyn drwy fynd i gyfarfodydd rhieni a'i gefnogi i wneud ei orau glas ar bob adeg.
  • Cefnogi'ch plentyn gartref gyda gweithgareddau gwaith cartref neu ddarllen a thrwy ddilyn cyngor y feithrinfa/ysgol/coleg ar weithgareddau eraill a allai helpu addysg eich plentyn neu'ch person ifanc.
  • Siarad a staff y feithrinfa/ysgol/coleg os oes gennych unrhyw bryderon.

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:

  • Gwybod y dylai pobl wrando ar ddymuniadau eich plentyn.
  • Cael gwybod gan yr ysgol pan fyddant yn dechrau rhoi help ychwanegol neu wahanol i'ch plentyn.
  • Cael eich cynnwys mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eich plentyn.
  • Y bydd pobl yn ystyried eich barn.
  • Cael copi o gynllun(iau) dysgu/CAU/CDU/Datganiad eich plentyn.

Yn ogystal, mae Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Llywodraeth Cynulliad Cymru a'i chanllaw ar gyfer rhieni'n rhoi manylion y mathau o hawliau rhieni sy'n gysylltiedig ag addysg plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Er enghraifft, rhaid i awdurdod lleol drefnu i roi cyngor a gwybodaeth i rieni plentyn ag anghenion dysgu ychwanegol am faterion sy'n ymwneud a'r anghenion hynny. Rhaid i awdurdodau lleol gymryd pa gamau bynnag y maent yn eu hystyried yn briodol i hysbysu rhieni, penaethiaid, ysgolion ac eraill a ystyrir yn briodol ynghylch y Gwasanaethau Partneriaeth Rhieni.

Yn ogystal, rhaid hysbysu rhieni am eu hawliau i gael mynediad at Wasanaeth Datrys Anghydfod wrth geisio datrys unrhyw anghydfod a all godi naill ai gyda'r ysgol neu eu hawdurdod lleol. Dylent hefyd gael gwybod am eu hawl i apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru os nad ydynt yn hapus a'r fford y mae awdurdod lleol yn bwriadu darparu ar gyfer eu plentyn.

Close Dewis iaith