Y broses bartneriaeth
Rydym yn gwybod bod cynnwys rhieni yn addysg eu plant yn fanteisiol i bawb. Mae'r broses bartneriaeth yr un mor bwysig â'r canlyniadau.
Gwyddom ers tro bod cynnwys rhieni yn nysgu eu plant yn fanteisiol i bawb. Mae'n broses ddysgu iach, anogol a chadarnhaol.
Mae hyrwyddo'r bartneriaeth hon wrth gynllunio a darparu ar gyfer plant ag Anghenion dysgu Ychwanegol (neu y gall fod ganddynt ADY) ac wrth eu hasesu a'u hadolygu yn barhad o'r broses bartneriaeth honno - fel bod rhieni pob plentyn yn yr ysgol yn teimlo'n rhan o addysg eu plant a'u bod yn gallu bod yn hyderus bod anghenion eu plentyn yn cael eu diwallu. Mae angen i rieni deimlo'n hyderus. Os yw rhieni'n teimlo'n hyderus am addysgu eu plentyn, bydd y plant hefyd yn synhwyro'r hyder hwnnw!
Magu hyder
Er mwyn i rieni allu cyfrannu'n effeithiol i drafodaethau a chyfarfodydd, mae angen iddynt deimlo'n hyderus ac yn sicr. Mae yna rai ffactorau pwysig sy'n helpu'r broses hon ac yn cynyddu lefelau hyder rhieni:
- agosatrwydd;
- gofal a chonsyrn gwirioneddol;
- sianeli cyfathrebu dwyffordd.
Os yw gweithwyr proffesiynol yn ceisio datblygu partneriaeth wirioneddol a rhieni wrth asesu, cynllunio, gweithredu ac adolygu prosesau, mae angen iddynt wneud y canlynol:
- cydnabod ymlyniad personol ac emosiynol rhieni;
- canolbwyntio ar gryfderau'r plant yn ogystal â'u gwendidau;
- peidio â gwneud rhagdybiaethau am gyd-destun dysgu'r cartref;
- cefnogi rhieni wrth iddynt baratoi eu cyfraniadau;
- parchu dilysrwydd gwahanol safbwyntiau, neu'r hawl i anghytuno;
- chwilio am ffyrdd adeiladol o ddatrys neu ddod i gytundeb am wahanol safbwyntiau.
Mae angen i athrawon dderbyn arbenigedd rhieni; wedi'r cwbl, mae rhieni yn arbenigwyr ar eu plant eu hunain ac yn eu hadnabod yn dda. Dylai staff addysgu fod yn barod i wrando, nid yn unig ar yr hyn a ddywedir, ond hefyd ar yr hyn a olygir. Bydd hyn o gymorth mawr wrth ddatblygu partneriaeth effeithiol ac ymgysylltiad â rhieni. (Mae hyn yn gweithio'r ddwy ffordd wrth gwrs).
Materion teuluol y mae angen i weithwyr proffesiynol eu hystyried
Er mwyn i rieni deimlo eu bod yn cael eu hystyried yn bartneriaid cyfartal, rhaid i weithwyr proffesiynol ddangos eu bod yn deall bod llawer o wahanol agweddau i fywydau rhieni. Mae'n rhaid i rieni flaenoriaethu, cydbwyso anghenion, cyflawni targedau a chadw o fewn terfynau amser, fel sy'n rhaid i weithwyr proffesiynol.
Efallai y bydd angen i lawer o deuluoedd ystyried y canlynol:
- yr amser sydd ar gael;
- rhybudd ynglyn â chyfarfodydd;
- ymrwymiadau teuluol eraill;
- rhieni sy'n gweithio;
- diffyg trafnidiaeth;
- diffyg hyder;
- llythrennedd;
- iaith;
- diwylliant;
- statws;
- sgiliau cymdeithasol;
- hanes addysgol;
- anghenion dysgu ychwanegol/anableddau.
Felly, er mwyn i unrhyw bartneriaeth iach ffynnu, mae'n hanfodol bod POB ochr y bartneriaeth yn gwerthfawrogi ac yn deall ei gilydd.