Toglo gwelededd dewislen symudol

Corff llywodraethu'r ysgol

Mae corff llywodraethu'r ysgol yn helpu i lunio polisi ysgol. Darllenwch am sut mae'r corff llywodraethu'n cydweithio a'r pennaeth i sicrhau bod plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) wedi'u cefnogi'n llawn yn yr ysgol.

Mae gan gorff llwydoraethu'r ysgol rol hanfodol wrth:

  • Wneud ei orau i sicrhau y gwneir y ddarpariaeth angenrheidiol gan yr ysgol er mwyn diwallu Anghenion Dysgu Ychwanegol ei ddisgyblion.
  • Sicrhau, lle mae'r 'person cyfrifol' (pennaeth neu lywodraethwr priodol) wedi'i hysbysu gan yr awdurdod lleol fod gan ddisgybl anghenion addysgol arbennig, bod yr holl staff sy'n debygol o addysgu'r disgybl hwnnw'n cael gwybod am yr angehnion hynny.
  • Sicrhau bod athrawon yn yr ysgol yn ymwybodol o bwysigrwydd adnabod disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
  • Sefydlu polisi'r ysgol am ddiwallu anghenion dysgu ychwanegol ac adrodd yn flynyddol amdano i rieni.
  • Sicrhau bod disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn ymuno yng ngweithgareddau'r ysgol ynghyd a disgyblion nad oes ganddynt anghenion dysgu ychwanegol, cyhyd ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol ac yn gydnaws a'r disgyblion sy'n derbyn y ddarpariaeth anghenion ychwanegol, addysg effeithiol disgyblion eraill yn yr ysgol a'r defnydd effeithlon o adnoddau.
  • Ystyried unrhyw godau ymddygiad priodol wrth gyflawni eu dyletswyddau tuag at ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig.

Dylai corff llywodraethu'r ysgol hefyd, mewn cydweithrediad a'r penaeth:

  • Bennu polisi cyffredinol yr ysgol a'i hymagwedd at ddarpariaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.
  • Sefydlu'r trefniadau staffio a chyllido priodol.
  • Goruchwylio gwaith yr ysgol yn gyffredinol.