
Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus 2018/19
Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar 2018/19 - ein blwyddyn gyntaf o weithredu a chyflwyno.
Adrodd am les Abertawe
Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe gyhoeddi ein Cynllun Lles Lleol ym mis Mai 2018.
Mae'r Arddodiad Blynyddol hwn yn amlinellu'r cynnydd a wnaed tuag at yr 'Abertawe ddelfrydol' a sut rydym wedi rhoi'r egwyddorion datblygu cynaliadwy ar waith a sut y gallem weithio'n well i gyflawni lles yn y dyfodol.
Er ein bod wedi cyflawni llawer yn ystod y flwyddyn gyntaf o gyflwyno, nid yw BGC Abertawe'n hunanfodlon a bydd yn parhau i arloesi a cheisio ffyrdd newydd o wella lles Abertawe ar gyfer cenedlaethau heddiw a'r dyfodol.
Hygyrchedd
Rydym am i'n Hadroddiad Blynyddol fod yn ddefnyddiol a hawdd i bawb ei ddarllen felly mae gennym sawl fersiwn.
Fersiwn hwylus i'w darllen ar y sgrîn
Rydym yn croesawu unrhyw gyfraniad at ein meysydd gwaith a hoffem hefyd groesawu syniad ac awgrymiadau ar gyfer ffyrdd eraill o weithio y gallem eu hystyried ar gyfer y dyfodol.