Hanesydd i ddathlu ymgyrch hir Abertawe i gael statws dinas
Bydd cyn-archifydd dinas Abertawe, Dr John Alban, yn rhoi darlith gyhoeddus ar ymgais hir yr ardal i gael statws dinas.
Bydd ei sgwrs ddarluniadol yn esbonio sut yr ymgyrchwyd am bron chwe degawd i gael statws dinas yn Abertawe cyn i'r anrhydedd gael ei rhoi 50 o flynyddoedd yn ôl.
Cynhelir y sgwrs am 1pm ddydd Sadwrn 14 Rhagfyr yn y Ganolfan Ddinesig, yn Ystafell Ddarganfod Llyfrgell Ganolog Abertawe. Drysau'n agor am 12.30pm.
Bydd cyfle hefyd i weld arddangosfa arbennig sy'n dathlu datblygiad Abertawe dros yr hanner can mlynedd diwethaf.
Bwriedir i Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Peter Black, gyflwyno'r sgwrs ar 14 Rhagfyr, a bydd y sgwrs hon yn dod â rhaglen dathliadau hanner canmlwyddiant Llyfrgelloedd Abertawe i ben.