Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Y gwasanaeth larwm cymunedol (llinell bywyd) - amodau a thelerau gwasanaeth

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr amodau a'r telerau a osodir gan y Gwasanaeth Larymau Cymunedol.

1. Y tal blynyddol yw:

£175.83 ac eithrio TAW.

£210.94 gan gynnwys TAW.

Bydd un anfoneb y flwyddyn. Gellir talu'r anfoneb fesul 10 taliad misol neu ei thalu mewn un taliad blynyddol.

Cwblhewch adran gostyngiad TAW y ffurflen ar-lein os ydych yn gymwys am ostyngiad TAW. Os na chaiff y ffurflen gostyngiad TAW ei llenwi, bydd eich anfoneb yn cynnwys TAW yn awtomatig VAT.

Mae dau gategori gwahanol o gymorth TAW. Cwblhewch os yw'n berthnasol.

i)  Pobl sy'n derbyn pecyn gofal a aseswyd e.e. cyfarpar ysbyty neu'n derbyn gofal cartref.

ii) Pobl a salwch neu anabledd cronig.

2. Mae'r pris yn ddilys tan Ebrill 2024 ac yn destun adolygiad blynyddol fel a nodir ym Mholisi Codi Tal y cyngor.

3. Mae'r cyngor yn cadw'r hawl i amrywio'r fath daliadau drwy adolygiad blynyddol a chydag o leiaf 14 diwrnod o rybudd ysgrifenedig.

4. There will be one invoice per year. This can be collected in 10 monthly payments or paid in one annual payment.

5. Rhaid cwblhau'r mandad debyd uniongyrchol atodedig a'i ddychwelyd i'r cyfeiriad ar y mandad. Os na allwch dalu drwy ddebyd uniongyrchol, mae dulliau talu eraill ar gael a byddwch yn derbyn anfoneb sy'n gofyn am dal llawn. Gellir gwneud cais am gynlluniau talu amgen wedi i chi dderbyn eich anfoneb drwy ffonio'n Hadran Cyfrifon Derbyniadwy ar: 01792 635847.

6. Bydd taliadau'n berthnasol nes i chi ddychwelyd eich cyfarpar. D.S. Eich cyfrifoldeb chi yw cael derbynneb am ddychwelyd eich cyfarpar oherwydd caiff unrhyw gyfarpar heb ei ddychwelyd neu heb ei anfonebu ei anfonebu ar y tal blynyddol presennol. Fe'ch cynghorwn yn gryf i hysbysu'ch perthynas agosaf o'r wybodaeth hon fel ei fod yn ymwybodol o'r angen i ddychwelyd y cyfarpar ar eich rhan os na allwch ei ddychwelyd eich hun.

7. Ni fyddwn yn caniatau unrhyw daliadau gwasanaeth sydd heb eu talu.

8. Gwneir pob ymdrech i gysylltu a'r defnyddiwr gwasanaeth er mwyn gwneud trefniadau addas i dalu'r anfoneb.

9. Erys y cyfarpar a'r holl ategolion yn eiddo i Gyngor Abertawe. Ffoniwch 01792 648999 os nad ydych am barhau i dderbyn y gwasanaeth.

10. Caiff y cyfarpar ei ddefnyddio'n unol a'r cyfarwyddiadau a roddwyd.

11. Mae'r tanysgrifiwr yn gyfrifol am y taliadau trydan a ffon a geir o ddefnyddio'r cyfarpar ac am ei yswirio.

12. Pan wneir galwad larwm i'r gwasanaeth ac nid oes modd cysylltu a'ch cysylltiadau enwebedig, bydd y gwasanaeth yn cysylltu a'r gwasanaethau brys, gan gynnwys yr heddlu, a fydd, os yw'n briodol yn gorfodi mynediad i'r eiddo er mwyn sicrhau diogelwch a lles y tanysgrifiwr. Y tanysgrifiwr fydd yn gyfrifol am adfer unrhyw niwed rhesymol a achoswyd.

13. Gwybodaeth bersonol - cyfrifoldeb y defnyddiwr gwasanaeth yw dweud wrth y gwasanaeth am unrhyw newidiadau i'w amgylchiadau personol gan gynnwys newidiadau i'w ddaliwr allweddi, gwybodaeth gyswllt neu newidiadau i'w ddarparwr ffon.

14. Mae'r tanysgrifiwr yn gyfrifol am sicrhau y gwneir galwad prawf llwyddiannus os newidiwyd darparwr ffon ers y gosodiad gwreiddiol i sicrhau parhad y gwasanaeth.

15. Mae'n rhaid i'r defnyddiwr gwasanaeth brofi'r tlws crog unwaith y mis.

16. Ni fydd Cyngor Abertawe'n atebol am unrhyw fethiant i'r cyfarpar o ganlyniad i beidio a defnyddio na phrofi'r cyfarpar yn unol a'r cyfarwyddiadau a roddwyd.

Close Dewis iaith