Y nifer uchaf erioed o geisiadau ar gyfer seremoni wobrwyo fwyaf Cymru ar gyfer twristiaeth
Mae llawer o gyffro ynghylch seremoni wobrwyo fwyaf Cymru ar gyfer twristiaeth ar ôl derbyn y nifer uchaf erioed o geisiadau ac enwebiadau.
Bydd cannoedd o gynrychiolwyr y diwydiant yn dod i Wobrau Twristiaeth Bae Abertawe 2019 pan fyddant yn dychwelyd i Neuadd Brangwyn fawreddog Abertawe fis nesaf.
Derbyniwyd dros 8,000 o enwebiadau cyhoeddus a cheisiadau gan fusnesau eleni - y nifer mwyaf ers i'r gwobrau ddechrau 13 o flynyddoedd yn ôl.
Disgwylir i'r seremoni hudol gymryd lle nos Iau, 14 Tachwedd - ac mae tocynnau eisoes yn gwerthu'n dda. Trefnwyd y gwobrau mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe a'r gymdeithas fasnach dwristiaeth leol, Twristiaeth Bae Abertawe.
Mae'r gwobrau'n agored i fusnesau twristiaeth ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Bydd y noson fawr yn dod â chwaraewyr allweddol twristiaeth a lletygarwch, dylanwadwyr a phobl newydd ynghyd i ddathlu a chymeradwyo rhagoriaeth yn y sector. Bydd yr actor a'r darlledwr Kev Johns MBE yn cyflwyno'r noson.
Rhagor o wybodaeth: www.swanseabaytourismawards.co.uk
Llun Derbyniodd The Fountain Inn Wobr Twristiaeth Bae Abertawe yn 2017. Eleni maen nhw'n noddi'r categori lleoliad gorau ar gyfer priodasau. Llun gan Steve Phillips Photography