Toglo gwelededd dewislen symudol

BOPA - adran 7

Mae'n bwysig fod swyddogion trwyddedu yn deall y gwahanol ddeddfau sy'n effeithio ar absenoldeb o'r ysgol i gymryd rhan mewn perfformiad, gweithgaredd neu chwaraeon am dal.

Absenoldeb o'r ysgol

Mae'n bwysig fod swyddogion trwyddedu yn deall y gwahanol ddeddfau sy'n effeithio ar absenoldeb o'r ysgol i gymryd rhan mewn perfformiad, gweithgaredd neu chwaraeon am dal.

Y deddfau sy'n berthnasol i hyn yw:

Adrannau 37(4) a 37(7) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963 Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 - Rheoliad 7

Mae adran 37(4) o Ddeddf 1963 yn nodi na ddylai awdurdod lleol roi trwydded i blentyn wneud unrhyw beth oni bai eu bod yn fodlon na fydd eu haddysg yn dioddef.

Mae adran 37(7) o Ddeddf 1963 yn nodi y bydd trwydded yn nodi'r adegau y gall y plentyn fod yn absennol o'r ysgol at y dibenion a awdurdodir gan y drwydded, ac am yr adegau hynny a nodir, bernir fod yr absenoldeb hwnnw wedi'i awdurdodi gan unigolyn a awdurdodwyd at y diben hwnnw gan reolwyr, llywodraethwyr neu berchennog yr ysgol.

Dylai awdurdodau trwyddedu gofio bod adran 37(4) yn nodi, os ydynt yn fodlon na fydd addysg y plentyn yn dioddef, na ddylent wrthod rhoi trwydded. Felly, os na all yr ysgol ddarparu tystiolaeth neu os nad yw'r awdurdod lleol wedi'i argyhoeddi gan eu tystiolaeth neu eu gwrthwynebiadau, mae'n rhaid iddynt roi trwydded, os ydynt yn fodlon a phob agwedd arall ar y cais.

Mae'n rhaid darparu llythyr gan y pennaeth gyda'r cais am drwydded, oni bai fod yr awdurdod yn fodlon nad yw'n bosibl neu'n ymarferol cael gafael ar lythyr o'r fath (megis pan wneir cais yn ystod gwyliau'r haf ac nid yw'n cynnwys amser y tu allan i'r ysgol), ond nid pe bai wedi bod modd cael llythyr pe bai'r cais wedi'i gynllunio'n well.

Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 - Rheoliad 7

Mae rheoliad 7(2) yn nodi: Rhaid peido a rhoi caniatad i fod yn absennol er mwyn galluogi disgybl i ymgymryd a chyflogaeth (pa un ai am dal ai peidio) yn ystod oriau ysgol, ac eithrio:

(a)  cyflogaeth at y diben o gymryd rhan mewn perfformiad yn yr ystyr a roddir i 'performance' yn adran 37 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963(1) o dan awdurdod trwydded a roddir gan yr awdurdod lleol o dan yr adran honno;

Mae cyngor Llywodraeth Cymru yn egluro hyn ymhellach (Cadw perfformwyr ifanc yn ddiogel - dogfen ganllawiau rhif: 192/2015 Adran 2.9 sy'n nodi: Ar gyfer ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol ac ysgolion arbennig nas cynhelir gan yr awdurdod lleol, ni chaiff plentyn fod yn  absennol o'r ysgol er mwyn perfformio neu gymryd rhan mewn chwaraeon neu fodelu cyflogedig oni bai fod trwydded wedi'i chael gan awdurdod lleol y plentyn. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu, oni bai fod y perfformiad neu'r gweithgaredd yn digwydd y tu allan i oriau ysgol (er enghraifft ar y penwythnos neu yn ystod y gwyliau), ni chaiff plentyn ddibynnu ar un o'r esemtiadau yn adran 37(3) er mwyn perfformio, gan mai dim ond ar gyfer perffomiad neu weithgaredd y mae trwydded ar ei gyfer y caiff pennaeth awdurdodi absenoldeb plentyn.

Fodd bynnag:

Mae Rheoliad 7(5) yn nodi: Mae'r rheoliad hwn (h.y. Rheoliad 7 yn ei gyfanrwydd) yn gymwys yn unig i ysgol a gynhelir ac ysgol arbennig nas cynhelir gan awdurdod lleol.

Golyga hyn y gall pennaeth ysgol annibynnol, academi neu ysgol rydd awdurdodi absenoldeb i gymryd rhan mewn perfformiad os ydynt yn dymuno gwneud hynny, ni waeth p'un a oes trwydded wedi'i rhoi ai peidio.

Mae'r tabl canlynol yn nodi'r amgylchiadau pan ellir caniatau absenoldeb o'r ysgol o dan yr esemtiadau yn adran 37(3).

Esemptiad
Math o ysgolEsemptiadA ellir awdurdodi absenoldeb?
Ysgol a gynhlir gan awdurdod lleolRheol 4 diwrnodNa - bydd angen trwydded
Ysgol arbennig nas cynhelir gan yr awdurdod lleolRheol 4 diwrnodNa - bydd angen trwydded
Ysgol annibynnol, academi neu ysgol ryddRheol 4 diwrnodGellir - os yw'r pennaeth yn dewis gwneud hynny
Ysgol a gynhelir gan awdurdod lleolBOPANa - bydd angen trwydded
Ysgol arbennig nas cynhelir gan yr awdurdod lleolBOPANa - bydd angen trwydded
Ysgol annibynnol, academi neu ysgol ryddBOPAGellir - os yw'r pennaeth yn dewis gwneud hynny

Gyda diolch i Sandra Rothwell, cyngadeirydd y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Cyflogaeth ac Adloniant Plant ac awdur The Guide to Performance licensing England 2014. Diwygiwyd i adlewyrchu Rheoliadau Cymru gan Jo Bowman.

Close Dewis iaith