Chwilio'r wefan
English

Brendan Cole

Daw Brendan Cole i'r llwyfan i syfrdanu cynulleidfaoedd gyda'i gynhyrchiad gwych diweddaraf, All Night Long.

Brendan Cole
7 Tach 2018
7.30PM.
Neuadd Brangwyn
Guildhall, Guildhall Road South, Swansea, SA1 4PE

Tocynnau: £32.00 & £40.00
Buy Tickets Button Welsh
I ddathlu 10 mlynedd o deithio, bydd cast gwych o ddawnswyr gwadd, prif fenyw ddeniadol a 12 o gerddorion a chantorion hynod dalentog yn ymuno ag ef i gyflwyno cymysgedd bendigedig o ddawnsiau Lladin a neuadd. Gyda'r Tango cyffrous, y Paso Doble tanllyd, y ffocstrot cain a'r walts syfrdanol, a chydag ychydig o bethau annisgwyl hefyd, ni fydd y sioe ddawns hon yn un arferol.

"Un o'r sioeau gorau rf erioed wedi'i gweld! Creadigol, unigryw... Byddwch yn colli cyfle os nad ydych yn gweld y sioe hon." Callum O'Brien, Norwich Eye

Bydd cerddoriaeth fyw, effeithiau arbennig penigamp, a choreograffi a swyn trawiadol Brendan ei hun yn sicrhau y bydd y noson hon yn un i'w chofio; ymunwch â ni ar gyfer y parti!

"Mae coreograffi Brendan yn cyfuno swyn y gorffennol ag actau gwych a chyffrous er mwyn cyflwyno noson o adloniant pur o'r dechrau i'r diwedd." NorthWestEnd

Ffôn: 01792 475715
Wedi'i bweru gan GOSS iCM