Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Datblygu Lleol Newydd Abertawe (CDLlN) 2023-2028

Mae gwaith yn mynd rhagddo i lunio Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) i Abertawe. Bydd y Cynllun newydd yn disodli'r CDLl presennol ac yn darparu'r glasbrint newydd ar gyfer datblygiad yn Abertawe yn y dyfodol, hyd at 2038.

Aerial view of Swansea

Yn seiliedig ar y canfyddiadau a nodir mewn adolygiad cynhwysfawr o'r CDLl mabwysiedig, cynhyrchodd y cyngor Gytundeb Cyflawni (CC) ar gyfer CDLl Newydd Abertawe. Mae'r CC yn cadarnhau yn union sut bydd y broses o ddisodli'r CDLl yn cael ei chynnal, gan gynnwys yr holl ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan.

Ar 6 Gorffennaf 2023 cymeradwyodd y cyngor y CC yn ffurfiol, gan gytuno y dylid dechrau ar gamau allweddol y gwaith paratoi cynllun, gan gynnwys yr alwad am safleoedd ymgeisiol.

Ewch i'n porth ymgynghoriad i weld y dogfennau diweddaraf, i gofrestru'ch diddordeb ac i ddweud eich dweud.

Y newyddion diweddaraf

Galwad am Safleoedd Ymgeisiol - mae'r Alwad am Safleoedd Ymgeisiol ar gyfer y CDLlN bellach wedi cychwyn. Gellir cyflwyno safleoedd tan 31 Hydref 2023.

Adroddiad Cwmpasu'r Arfarniad Cynaladwyedd Integredig drafft - mae Adroddiad Cwmpasu'r ACI yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd gyda chyrff ymgynghori statudol ac mae ar gael i bartïon â diddordeb wneud sylwadau arno.

Adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol

I sicrhau bod Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) yn gyfredol, mae'n ofynnol i gynghorau adolygu eu cynlluniau o leiaf unwaith bob pedair blynedd.

Cytundeb cyflawni ddrafft

Y Cytundeb Cyflawni (CC) yw'r cam allweddol cyntaf ar gyfer paratoi Cynllun Datblygu Lleol Newydd Abertawe (CDLlN)

Safleoedd ymgeisiol

Mae safle ymgeisiol yn ardal o dir wedi'i diffinio a gyflwynir i'r cyngor gan barti â diddordeb i'w gynnwys o bosib yn y CDLl Newydd (CDLlN).

Arfarniad Cynaladwyedd Integredig a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

Caiff y CDLlN ei lywio gan yr Arfarniad Cynaladwyedd Integredig a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC) i sicrhau yr asesir effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y CDLlN.

Cysylltwch â thîm y CDLl

Enw
Creu Lleoedd a Strategol Cynllunio
Rhif ffôn
07814105625
Close Dewis iaith