Cynllun Datblygu Lleol Newydd Abertawe (CDLlN) 2023-2028
Mae gwaith yn mynd rhagddo i lunio Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) i Abertawe. Bydd y Cynllun newydd yn disodli'r CDLl presennol ac yn darparu'r glasbrint newydd ar gyfer datblygiad yn Abertawe yn y dyfodol, hyd at 2038.

Yn seiliedig ar y canfyddiadau a nodir mewn adolygiad cynhwysfawr o'r CDLl mabwysiedig, cynhyrchodd y cyngor Gytundeb Cyflawni (CC) ar gyfer CDLl Newydd Abertawe. Mae'r CC yn cadarnhau yn union sut bydd y broses o ddisodli'r CDLl yn cael ei chynnal, gan gynnwys yr holl ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan.
Ar 6 Gorffennaf 2023 cymeradwyodd y cyngor y CC yn ffurfiol, gan gytuno y dylid dechrau ar gamau allweddol y gwaith paratoi cynllun, gan gynnwys yr alwad am safleoedd ymgeisiol.
Ewch i'n porth ymgynghoriad i weld y dogfennau diweddaraf, i gofrestru'ch diddordeb ac i ddweud eich dweud.
Adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol
Cytundeb cyflawni ddrafft
Safleoedd ymgeisiol
Y Weledigaeth, yr Amcanion a'r Opsiynau Strategol
Arfarniad Cynaladwyedd Integredig a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
Cysylltwch â thîm y CDLl
- Enw
- Creu Lleoedd a Strategol Cynllunio
- E-bost
- cdll@abertawe.gov.uk
- Rhif ffôn
- 07814105625