Casglu asbestos o'ch cartref
Rydym yn cynnig gwasanaeth casglu asbestos bondiog i breswylwyr Abertawe.
Mae asbestos bondiog yn cynnwys dalen sment asbestos rychiog, cynhyrchion wedi'u mowldio â sment asbestos, deunydd diddosi wedi'i wneud o fitwmen a theils llawr finyl.
Dalen sment asbestos rychiog 'Big 6' (6 throedfedd o hyd x 4 troedfedd o led) | £40 fesul dalen i'w chasglu |
Dalen sment asbestos rychiog safonol (6 throedfedd o hyd x 3 troedfedd o led) | £30 fesul dalen i'w chasglu |
1 bag o sment / teils llawr asbestos wedi'u torri (25kg) | £30 fesul bag |
Pibell garthion / wastraff sment asbestos | £90 y bibell wastraff (eiddo deulawr) £120 y bibell wastraff (eiddo trillawr) |
Cafnau a phibellau dŵr asbestos | £30 fesul pibell ddŵr |
Astell fondo sment asbestos | £60 fesul astell 6m o hyd (2 fag) |
Rhaid talu ymlaen llaw. Ni ddylid talu'r criwiau casglu.
Cais am gasgliad
I drefnu casgliad, ffoniwch 01792 635600. Dylech roi disgrifiad llawn o'r gwastraff i'w gasglu pan fyddwch yn trefnu'r casgliad.
Symiau mwy o asbestos
Os oes gennych nifer mawr o ddalennau asbestos bondiog, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â chwmni gwaredu gwastraff masnachol. Rhaid iddynt gael trwydded i drin a thrafod asbestos.
Bydd gan Gontractwyr Symud Asbestos Cymeradwy (ARCA) restr o gontractwyr yn ardal Abertawe a gymeradwywyd i symud asbestos. Ffoniwch nhw ar 01283 531126 neu e-bostiwch info@arca.org.uk.