Y cyhoedd yn dweud eu dweud am Sgwâr y Castell
Pobl Abertawe'n dweud eu dweud am ddyfodol un o brif leoliadau canol y ddinas.
Gofynnir am eu barn am nifer o opsiynau cyffrous ar gyfer dyfodol Sgwâr y Castell.
Bydd Cyngor Abertawe'n cynnal yr ymgynghoriad yn 2020. Mae'r cyngor am drawsnewid y lleoliad yn lle sy'n efelychu swyn Gerddi'r Castell gwreiddiol gan ddarparu man cyhoeddus dymunol lle bydd ymwelwyr am dreulio amser ac ymlacio.
Bydd yn parhau i fod yn lleoliad hyblyg er mwyn darparu ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus fel mae'r sgwâr yn gwneud ar hyn o bryd.
Mae degau ar filoedd o bobl yn defnyddio Sgwâr y Castell yn rheolaidd ar gyfer digwyddiadau ac wrth siopa yn y ddinas. Dechreuodd astudiaeth dichonoldeb i'w dyfodol eleni.
Mae'r cynlluniau adfywio canol y ddinas sydd ar waith yn cynnwys gwaith adeiladu dros y deunaw mis nesaf fel rhan o Gam 1 Abertawe Ganolog gwerth £135m.
Llun: Sgwâr y Castell